Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y | Cysylltwch â ni | English
Hill / Bryn

 
Lleoliad: cartref | beth sy’n newydd

Beth sy’n newydd

Mae’r Adran hon yn rhestru’r tudalennau sydd wedi cael eu hychwanegu at y wefan yn ddiweddar.


Tudalennau yn yr adran hon

Theatre Colwyn
Broadway and Beyond’ – Cynnig Arbennig yn Theatr Colwyn 07/09/2010

BROADWAY AND BEYOND, yn Theatr Colwyn nos Wener (10 Medi ). Dyma ddetholiad cyffrous ac adloniadol o gerddoriaeth a ffraethineb sioeau cerdd mwyaf poblogaidd yr ugeinfed a'r unfed ganrif ar hugain.


Elusendy Llanrwst
Drysau Agored 2010 - Dyddiau Treftadaeth Ewropeaidd 01/09/2010

Ymunwch â ni ar gyfer dathliad blynyddol mwyaf Cymru o bensaernïaeth a threftadaeth: Medi 2010 MYNEDIAD AM DDIM.


Bae Colwyn
Cais Cynllun Treftadaeth Trefwedd bwriedig Bae Colwyn 31/08/2010

Fel rhan o gais yr adain gadwraeth am arian y Cynllun Treftadaeth Trefwedd, byddem yn croesawu barn y cyhoedd ar ganol tref Bae Colwyn. Bydd pob un o'r ymatebion yn cael eu casglu a bydd y canlyniadau'n cael eu cynnwys yng nghais Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ym mis Tachwedd 2010


cyfrifydd
24/08/10 - Canlyniadau TGAU 2010 28/08/2010

Mae Aelod y Cabinet Dros Dysgu Gydol Oes, Cyng. Wyn Jones, a'r Prif Swyddog Addysg, Mr R. Geraint James, wedi cyhoeddi'r datganiad canlynol ar y cyd:

"Unwaith eto eleni mae myfyrwyr Conwy wedi perfformio'n eithriadol o dda gyda'r arholiadau TGAU, gyda gyfradd llwyddiant cyfangwbl o 98.8% gan gymharu'n ffafriol iawn gyda chyfartaledd Cymru gyfan o 98.7%.


plant
Strategaeth Ddrafft ar gyfer Moderneiddio Ysgolion Cynradd Conwy - taflen cwestiynau a ofynnir yn aml 27/08/2010

Codwyd nifer o gwestiynau yn ystod y cyfnod ymgynghori hyd yma felly hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddarparu'r atebion i'r cwestiynau a ofynnwyd amlaf.


Diwrnod Amgylcheddol Cymunedol yn Pentrefoelas, Ysbyty Ifan, Cefn Brith a Glasfryn
Diwrnod Amgylcheddol Cymunedol ym Mhentrefoelas, Ysbyty Ifan, Cefn Brith a Glasfryn. 16/08/2010

Cynhaliwyd diwrnod glanhau llwyddiannus arall ym Mhentrefoelas, Ysbyty Ifan, Cefn Brith a Glasfryn, ddydd Mercher, 11 Awst 2010.


Gwaith adeiladaeth, Cei Deganwy
Newyddlen Cynllun Datblygu Lleol 05/08/2010

Mae'r rhifyn diweddaraf yn cynnwys gwybodaeth am ddatblygiadau Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor , ac mae'n nodi beth yw camau tebygol nesaf y broses. Paratowyd y Newyddlen gan y Tîm Polisi Cynllunio a Chynlluniau Datblygu.


Twyll Budd-Dal
Rhoi Gwybod am Dwyll Budd-daliadau – Ffurflen Ar-lein 05/08/2010

Os ydych yn amau bod rhywun yn hawlio yn dwyllodrus neu’n cael budd-dal nad oes ganddynt hawl iddo, gallwch gysylltu â Thîm Archwilio Budd-daliadau Cyngor Conwy yn ddienw trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein neu ffonio (01492) 576612. Os hoffech drafod unrhyw beth cyn rhoi gwybod am eich pryderon, ffoniwch ni.


Calendr
Cynllun Moderneiddio Ysgolion Cynradd Conwy - Y Camau Nesaf (Gorffennaf 2010 ymlaen) 29/07/2010

Yn dilyn nifer o ymholiadau (a godwyd yn y sesiynau cwestiwn ac ateb cyhoeddus) ynghylch camau nesaf a dyddiadau allweddol ar gyfer cynllun moderneiddio ysgolion cynradd Conwy, hoffwn gymryd y cyfle hwn i egluro beth fydd yn digwydd nesaf a phryd.


Logo Conwy Ifanc
Digwyddiadau'r Haf i Bobl Ifanc 26/07/2010

Os oes gennych chi blant neu bobl ifanc gartref dros gwyliau'r haf, mae gwybodaeth ynglyn â gweithgareddau a digwyddiadau yn Sir Conwy ar www.conwyifanc.com. Ewch i CI1 ar gyfer y plant iau a CI2 ar gyfer plant hŷn a phobl ifanc.


medal
Gwobrau Chwaraeon 2010 24/07/2010

Mae'r chwilio wedi dechrau unwaith eto am y dalent chwaraeon orau yng Nghonwy.Eleni mae 11 categori i gydnabod llwyddiannau chwaraeon cystadleuwyr, hyfforddwyr a gweinyddwyr chwaraeon Conwy.


Paratoi ar gyfer argyfwng 21/07/2010

Bydd taflen newydd gyda gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu i baratoi ar gyfer argyfyngau fel llifogydd a thywydd difrifol ar gael yn fuan o swyddfeydd y Cyngor ac yn eich llyfrgell leol, neu gallwch lawr lwytho copi drwy glicio ar y ddolen isod.


20/07/10 - Cnwd helaeth o Faneri Gwyrdd yng Nghonwy 20/07/2010

Mae pum safle yn Sir Conwy wedi cipio Gwobr fawreddog y Faner Werdd eleni.


*Logo gwersyll plant 5-12 oed
Gwersyll Plant (5-12oed) Canolfan Hamdden John Bright 16/07/2010

Llawer mwy na gofal dydd (08.30 - 17.30). Mae rhywbeth i bawb, gan gynnwys nofio, chwaraeon, gemau, karaoke,darllen, canu, dawnsio a chelf a chrefft.


Becky Brewerton
Conwy'n croesawu Gorff Merched o'r Safon Uchaf! 13/07/2010

Mae Pencampwriaeth Merched Ewrop Cymru S4C yn dod i Glwb Golff Conwy o 12 - 15 Awst a bydd rhai o olffwyr benywaidd gorau'r byd yn dod draw hefyd, gan gynnwys y ffefryn cartref Becky Brewerton.


Diwrnod Amgylcheddol Cymunedol yn Nhal y Bont a Llanbedr y Cennin
Diwrnod Amgylcheddol Cymunedol yn Nhal y Bont a Llanbedr y Cennin 12/07/2010

Cynhaliwyd diwrnod glanhau llwyddiannus arall yn Nhal y Bont a Llanbedr y Cennin ddydd Mercher, 7 Gorffennaf 2010.


Rhagoriaeth Cymru 10/07/2010

Cyhoeddwyd y rhestr fer ar gyfer cynllun gwobrwyo gwasanaethau cyhoeddus lleol Cymru yng Nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn ddiweddar. Bydd y gwobrau Statws Rhagoriaeth Cymru yn cael eu cyflwyno mewn Cynhadledd Effeithlonrwydd ac Arloesi ym mis Hydref 2010. I ddarganfod mwy am Ragoriaeth Cymru a'r categorïau rydym wedi cael ein henwebu ar eu cyfer, darllenwch yr wybodaeth ar y dudalen hon.


Goreuon Conwy
Goreuon Conwy - Gwobrau Cymunedol 02/07/2010

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cynnal y Gwobrau Cymunedol Goreuon Conwy cyntaf i gydnabod gwaith a phrosiectau yng Nghonwy sydd er lles y Gymuned.


Porth-y-Felin
Strategaeth Ddrafft ar gyfer Moderneiddio Ysgolion Cynradd Conwy – Sesiynau Holi ac Ateb Cyhoeddus Gorffennaf 2010 02/07/2010

Yn dilyn nifer o ymholiadau ynghylch sesiynau cwestiwn ac ateb cyhoeddus ar ddechrau Gorffennaf 2010, hoffem fanteisio ar y cyfle i egluro beth yw'r sesiynau hyn a'r wybodaeth fydd ar gael.


cyfrifiannell
Cynllun Moderneiddio Ysgolion Cynradd Conwy – Strategaeth Ddrafft i Foderneiddio Ysgolion Cynradd Conwy 13/06/2010

Fel rhan o gam olaf cynllun Moderneiddio Ysgolion Cynradd, mae Awdurdod Lleol Conwy wedi cynhyrchu ‘Strategaeth Ddrafft ar gyfer Moderneiddio Ysgolion Cynradd Conwy’. Mae holiadur ar gael ar y wefan i unrhyw un sy’n dymuno darparu ymateb ffurfiol. Unwaith y bydd y cyfnod ymgynghori wedi dod i ben, bydd yr holl ymateb gafwyd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu fersiwn derfynol y Strategaeth i’r Cabinet yn hydref 2010.


Bwletin - Gwanwyn 2010 27/05/2010

Croeso i’ch newyddlen Bwletin ar ei newydd wedd, sy’n cael ei dosbarthu i’ch cartrefi ym Mwrdeistref Sirol Conwy i’ch helpu chi dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y Cyngor a’r gwasanaethau mae’n eu darparu i chi.


graph and map of Conwy
Conwy mewn ffigyrau 19/05/2010

Gallwch lawrlwytho argraffiad 2010 o'r daflen ffeithiau a ffigyrau hon rwan


Ffurflen Cofrestru Etholiadol
Isetholiadau Cyngor Sir 13/05/2010

Cynhelir Isetholiadau'r Cyngor Sir pan fod un o seddi'r Cyngor yn dod yn wag rhwng etholiadau.


mynediad i'r gorsaf pleidleisio
Etholiad Cyffredinol 2010 – Y CANLYNIADAU 06/05/2010

Gwybodaeth a chanlyniadau’r Etholiad Cyffredinol ar gyfer Etholaethau Aberconwy a Gorllewin Clwyd.


etholiad
Etholiad Cyngor Tref Llanfairfechan 23/04/2010

Canlyniadau'r etholiad


Community Environment Day - Maes Canol
Diwrnod Amgylchedd Cymunedol ym Maes Canol 14/04/2010

Cafwyd ymgyrch lanhau arall lwyddiannus ym Maes Canol, Abergele ddydd Mercher, 24 Chwefror 2010


Tai Amlbreswyl – Hysbysiad Cyhoeddus o Drwyddedu Ychwanegol - Wardiau Glyn / Rhiw (Bae Colwyn) 31/03/2010

Hysbysiad Cyhoeddus ynglŷn â Chynllun Trwyddedu Ychwanegol



Ardaloedd Banciau Ailgylchu 22/03/2010

Chwiliwch am Fanciau Ailgylchu gan leoliad neu math o ailgylchu.


Twyll Budd-Dal
Riportiwch dwyll budd-dal gyda’n ffurflen newydd ar lein 16/03/2010

Twyll budd-daliadau yw pan fydd pobl yn hawlio budd-dal tai, budd-dal treth y cyngor ac/neu fudd-daliadau nawdd cymdeithasol nad oes ganddynt hawl i'w derbyn.I ddysgu mwy am dwyll a rhoi gwybod am dwyll budd-daliadau drwy ein ffurflen ar-lein, ewch i'r adran hon.


Poster aelodau
Pwyllgor Safonau - Penodi Aelodau Annibynnol 10/03/2010

Mae’r Pwyllgor Safonau a sefydlwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn cynnwys 5 aelod annibynnol. 3 Cynghorydd Bwrdeistref Sirol ac 1 cynrychiolydd Cyngor Cymuned/Tref. Mae’r Pwyllgor yn chwarae rhan bwysig iawn yn y fframwaith moesegol sy’n Llywodraethu ymddygiad aelodau awdurdodau lleol ar lefel Sirol a Chymunedol.

Mae un sedd wag ar y Pwyllgor ar gyfer aelod annibynnol. Gwahoddir ceisiadau oddi wrth bobl â diddordeb, sy’n: - uchel eu parch yn y gymuned ac yn anwleidyddol; gallu dangos barn gadarn, cywirdeb a chymeriad da ac yn onest gyda’r gallu i barchu cyfrinachedd,


kerbside recycling / Ailgylchu
Ymchwiliad dydd casglu eich ysbwriel ag ailgylchu 10/03/2010

Os ydych yn derbyn gwasanaeth ailgylchu o ymyl y palmant, gallwch ddefnyddio’r rhestr diwrnodau casglu i weld pryd fyddwn yn casglu’ch sbwriel a’ch deunyddiau i’w hailgylchu.


Tai
Tai Fforddiadwy 16/02/2010

Mae datganiad darparu tai fforddiadwy wedi cael ei baratoi a bydd yn ystyriaeth bwysig a pherthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.


Plant
Nodiadau Cyfarfodydd Rhanddeiliaid a Enwebwyd - Ymgynghori ar y Ddogfen Ardaloedd i'w Hadolygu. 05/02/2010

Yn ddiweddar cyhoeddodd Awdurdod Lleol Conwy Ddogfen 'Ardaloedd i'w Hadolygu'. Cynhaliwyd Cyfarfodydd Rhanddeiliaid a Enwebwyd ymhob ardal ar gyfer adolygiadau dechreuol ac ar y dudalen hon mae copïau o'r nodiadau a wnaethpwyd ymhob cyfarfod.


LDP
Cyllun Datblygu Lleol Conwy i'w Archwilio gan y Cyhoedd - Adroddiad Sylwadau'r Cyhoedd 29/01/2010

Yn dilyn ymgynghori ynglŷn â'r Cynllun Datblygu Lleol i'w archwilio gan y cyhoedd rhwng Ebrill a Gorffennaf 2009, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Adroddiad Sylwadau, sy'n grynodeb o'r sylwadau a dderbyniwyd.


*etholiad
22/01/10 - Rhybudd Etholiad 26/01/2010

Ethol Cynghorydd Cymuned i gynrychioli Cymuned Bae Colwyn - Ward Glyn


Cynllun Datblygu Lleol
Cynllun Datblygu Lleol Conwy (LDP) - Cytundeb Darparu Diwygiedig 25/01/2010

Yn ddiweddar, anfonwyd llythyr at bob sefydliad ac aelodau o'r cyhoedd a anfonodd sylwadau ar yr ymgynghoriad ar Gynllun Datblygu Lleol Conwy (LDP) i'w archwilio gan y cyhoedd. Mae'r llythyr yn cyfeirio at Gytundeb Darparu Diwygiedig Conwy, sy'n amlinellu'r amserlen ddiwygiedig ar gyfer cynhyrchu'r LDP a'r camau ymgynghori nesaf.

Yn anffodus, dygwyd sylw'r Cyngor at y ffaith fod nifer fawr o bobl yn cael trafferth gweld y dogfennau gan ddefnyddio'r ddolen gyswllt gwe a roddwyd.


Ffordd Conwy, Cyffordd Llandudno
Cefnogi adfywio Cyffordd Llandudno 19/01/2010

Wybodaeth am adfywio Cyffordd Llandudno, pwy sy'n cymryd rhan, beth yw'r prosiectau rydym yn eu cyflawni, a beth yw'r datblygiadau.


Cronfa Fuddsoddi Leol 11/01/2010

Pwrpas y cynllun hwn yw cynorthwyo busnesau bach a chanolig presennol a newydd yng Nghonwy i sbarduno gweithgareddau busnes.

Gall brosiectau cymwys gael grantiau cyfalaf o hyd at 40% o gyfanswm cost y prosiect, gydag isafswm grant o £1,000 ac uchafswm o £5,000.


Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 - 2013 - Dweud eich dweud 11/01/2010

Mae Partneriaeth Wledig Conwy yn arwain wrth weithredu Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007 - 2013 yn lleol a chydlynu gweithgareddau datblygu gwledig yn ehangach.


*Logo Partneriaeth Wledig Conwy
Cynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 - ymgynghoriad syniadau am brosiectau 28/10/2009

Mae 32 o brosiectau gwledig sydd yn werth dros £5.7 miliwn yn gwneud gwahaniaeth i fywydau trigolion Conwy wledig.


Treth Annomastig Cenedlaethol
Bandiau a Phrisiau Treth y Cyngor 2009/2010 31/03/2009

Yng Nghymru mae pob annedd yn cael ei osod mewn un o naw band wedi'u trefnu yn ôl y llythrennau A i I ar sail yr amcangyfrif o'u gwerth ar 1 Ebrill 2003. Ar y dudalen hon cewch; weld strwythur Treth y Cyngor Conwy ar gyfer 2009/2010 a gweld trosolwg o'r arian rydym yn gwario ar gyfer eiddo band D arferol yng Nghonwy.


Conwy Ffit
Aelodaeth Conwy Ffit 22/10/2008

Mae Aelodaeth Ffit Conwy yn cynnwys mynediad i 5 Ystafell Ffitrwydd, 4 Pwll Nofio, dros 100 o Ddosbarthiadau Aerobeg a 10 canolfan hamdden am cyn lleied â £26.25 y mis! Gweler yr adran hon i gael rhagor o wybodaeth.


Gweler Hefyd

  • Gwasanaeth Casglu Gwastraff o Ymyl Palmant 30/05/2007

    Llongyfarchiadau, mae`n swyddogol bod preswylwyr Conwy bellach yn ailgylchu ac yn compostio dros 40% o'u holl wastraff sy`n ein rhoi ni yn 3ydd uchaf trwy Gymru.

Newidiad diweddaraf i'r safle: 09/09/2010
  |

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, Gogledd Cymru, LL32 8DU.
Ffôn: 01492 574000. Ffacs: 01492 574559. E-bost: gwybodaeth@conwy.gov.uk
Diogelu Data - Rhyddid Gwybodaeth| Hawlfraint a Gwadiadau