Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y | Cysylltwch â ni | English
Conwy castle / Castell Conwy

 
Lleoliad: gwasanaethau | cyngor a democratiaeth | adrannau'r cyngor | partneriaethau | partneriaeth iechyd a lles conwy

Partneriaeth Iechyd a Lles Conwy

Cyflwyniad i bartneriaeth iechyd, gofal cymdeithasol a lles Conwy.

Croeso i Wefan Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Conwy. Mae'r wefan hon wedi cael ei llunio i roi gwybod i'r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a staff yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat yng Nghonwy am y datblygiadau sy'n mynd rhagddynt i wella iechyd a lles cymunedau Conwy.

Mae'r bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau Defnyddwyr Gwasanaeth a Gofalwyr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Ymddiriedolaeth GIG Gogledd-orllewin Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych, Bwrdd Iechyd Lleol Conwy, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol, Cynghorau Iechyd Cymunedol Conwy, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy, y sector annibynnol (preifat), Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Ar lefel strategol/gynllunio mae Bwrdd Partneriaeth ac ar lefel weithredol mae Grwpiau Rheoli a Pholisi (MAPs).

Dim ond un maes yw Gofal Cymdeithasol a Lles lle sefydlwyd partneriaethau i wella gwasanaethau yng Nghonwy. Mae gan Gonwy Strategaeth Gymunedol sy'n dod â'r holl ddarparwyr gwasanaethau ynghyd (cyhoeddus, preifat a gwirfoddol) gydag aelodau o'r gymuned leol. Mae'r Strategaeth Gymunedol yn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau yn diwallu anghenion y gymuned leol ac felly'n gweithio tuag at wella ansawdd bywyd yn lleol. Bydd y Bartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles yn cynrychioli un elfen o waith y Strategaeth Gymunedol wrth geisio gwella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yr ardal a'i phobl.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech drafod Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Conwy yn fwy manwl, cysylltwch Ã¢'r Tîm Iechyd a Lles ar hscwb@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 574065.


Tudalennau yn yr adran hon

Gwefan 'SafeHome' 20/06/2008

Mae Safe Home yn offeryn diogelwch y cartref i helpu pobl, yn arbennig plant a phobl hÅ·n, rhag cael damweiniau yn y cartref.


Health Challenge Wales
Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Conwy 2008 - 2011 01/04/2008

Mae ail Strategaeth "Conwy Iach" newydd gael ei chyhoeddi (2008-2011)

Mae iechyd, gofal cymdeithasol a lles yn ein heffeithio ni i gyd - pwrpas y cynllun newydd hwn yw gwella iechyd pobl leol a gwneud yn siŵr y gallwn ni i gyd gael triniaeth a chymorth pan rydym ei angen.


Logo Her Iechyd Cymru
Strategaeth Conwy Iach 2008 - 2011 (Drafft) 13/11/2007

Ail Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Conwy ar fersiwn drafft - ydym ni wedi'i gwneud hi'n iawn?


Newidiad diweddaraf i'r safle: 02/09/2010
  |

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, Gogledd Cymru, LL32 8DU.
Ffôn: 01492 574000. Ffacs: 01492 574559. E-bost: gwybodaeth@conwy.gov.uk
Diogelu Data - Rhyddid Gwybodaeth| Hawlfraint a Gwadiadau