Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y | Cysylltwch â ni | English
Trees / Coed

 

Yr Adain Gwaith Ffordd

Trafnidiaeth

Mae'r Adain Gwaith Stryd yn gyfrifol am gydlynu a monitro'r holl weithgareddau a gaiff eu gwneud ar y briffordd gyhoeddus.

Rheolwr Gwaith Ffordd:- Stephen Daly
Ffôn: 01492 575426
Facs: 01492 575454
E-bost: gwaithstryd@conwy.gov.uk

Gallai hyn gynnwys gwaith a wneir gan gwmnïau gwasanaeth sy'n darparu a chynnal gwasanaethau fel nwy, dŵr a thrydan; neu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i adeiladu, gwella a chynnal Asedau Awdurdod Priffyrdd a delio efo Rheoliadau Trafnidiaeth Dros Dro fel ffyrdd yn cael eu cau ar gyfer y gwaith hyn ac ar gyfer digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ar briffyrdd.

Caiff yr holl waith a wneir ar Briffyrdd Cyhoeddus eu rheoli gan Ddeddf Ffyrdd newydd a Gwaith Stryd 1991. Mae'r Ddeddf hon yn rhoi'r pŵer i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, fel yr awdurdod Strydoedd. i sicrhau bod:

  • Mesurau diogelwch priodol yn cael eu defnyddio (arwyddion, conau, rhwystrau etc) i ddiogelu a rhybuddio defnyddwyr y priffyrdd am y gwaith
  • Y gosodiadau newydd yn cydymffurfio â'r gofynion cenedlaethol.
  • Y gwaith ar y stryd yn cael ei gydlynu fel bod cyn lleied â phosibl o dagfeydd ac aflonyddwch.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn rheoli a monitro gwaith ar briffyrdd, cliciwch ar y ddolen gyswllt isod.

Am wybodaeth ynglŷn â Gwaith Stryd sy'n digwydd yn Sir Conwy cliciwch ar y ddolen gyswllt isod.

Os ydych yn cynllunio unrhyw weithgareddau neu waith ar Briffordd cliciwch ar y ddolen gyswllt isod am ffurflenni cais a gwybodaeth. 


Tudalennau yn yr adran hon

A55 trunkroad at Conwy
Rhoi gwybod am broblemau ar y priffyrdd 01/11/2006

Gallwch ddefnyddio pedwar ffurflen i roi gwybod am broblemau gyda thyllau, palmant, sgipiau neu waith ar y priffyrdd.


Mwy yn yr adran hon

Dogfennau perthnasol

Acrobat/PDF FileRhestr Gwaith Stryd/ Ffyrdd 01.09.10.pdf
Math o ddogfen: Acrobat/PDF File
Maint y ddogfen: 18k

Acrobat/PDF FileRhestr Gwaith Stryd / Ffyrdd
Math o ddogfen: Acrobat/PDF File
Maint y ddogfen: 33k

Gweler Hefyd

Dolennau'r We

Newidiad diweddaraf i'r safle: 02/09/2010
  |

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, Gogledd Cymru, LL32 8DU.
Ffôn: 01492 574000. Ffacs: 01492 574559. E-bost: gwybodaeth@conwy.gov.uk
Diogelu Data - Rhyddid Gwybodaeth| Hawlfraint a Gwadiadau