Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y | Cysylltwch â ni | English
Hill / Bryn

 
Lleoliad: gwasanaethau | cyngor a democratiaeth | adrannau'r cyngor | gwasanaethau tai

Gwasanaethau Tai

Datblygiad tai

Ar 29 Medi 2008, trosglwyddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ei stoc tai i Gymdeithas Tai newydd o'r enw Cartrefi Conwy.

O hynny ymlaen, bydd Cartrefi Conwy yn darparu llawer o wasanaethau i'w cwsmeriaid a oedd yn arfer cael eu darparu gan y Cyngor.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • rheini a chynnal ei stoc tai, gan gynnwys:
    • casglu rhent ac adfer ôl-ddyledion rhent
    • dadleuon tenantiaid
    • ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ei ystadau
    • gwaith trwsio a'r gwasnaeth Gwaith Trwsio o Ddydd-i-Ddydd (01492 806040)
    • sicrhau bod tenantiaid yn cadw at amodau eu tenantiaeth
  • datblygu cymuned a chyfranogiad tenantiaid
  • cadw rhestr aros ar gyfer tai
  • dewis tenantiaid ar gyfer eiddo gwag Cartrefi Conwy o'u rhestr aros neu restr aros y Cyngor
  • cytundebau prydleswyr - ar gyfer pobl sydd wedi prynu eu cartref o dan drefniant Hawl i Brynu a Hawl i Gael
  • cwynion am wasanaethau Cartrefi Conwy

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir gan Gartrefi Conwy ar www.cartreficonwy.org

Er nad oes gan y Cyngor bellach eiddo i'w rhentu, mae'n dal i ddarparu ystod o wasanaethau tai. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y gwasanaethau hyn trwy glicio isod.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiwn am faterion tai, ond fedrwch chi ddim cael hyd i'r wybodaeth ar safle hwn, gallwch anfon e-bost atom i: ymholiadau.tai@conwy.gov.uk   


Tudalennau yn yr adran hon

Tai
Cartrefi Gwag 16/04/2010

Ar unrhyw bryd mae tua 1000 o gartrefi yng Nghonwy wedi bod yn wag ers dros 6 mis


Mwy yn yr adran hon

Newidiad diweddaraf i'r safle: 07/09/2010
  |

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, Gogledd Cymru, LL32 8DU.
Ffôn: 01492 574000. Ffacs: 01492 574559. E-bost: gwybodaeth@conwy.gov.uk
Diogelu Data - Rhyddid Gwybodaeth| Hawlfraint a Gwadiadau