Skip to [main navigation | secondary navigation | content]
A i Y | Cysylltwch â ni | English
Conwy castle / Castell Conwy

 

Bwrdd Lleol Diogelu Plant

Logo Bwrdd Lleol Diogelu Plant
Logo Bwrdd Lleol Diogelu Plant

Mae Bwrdd Lleol Diogelu Plant yn fforwm amlasiantaeth ar gyfer cytuno ar sut ddylai gwasanaethau diogelu plant lleol gael eu cynllunio, eu darparu a'u monitro.

Mae Bwrdd Lleol Diogelu Plant Conwy yn fforwm amlasiantaeth ar gyfer cytuno ar sut ddylai gwasanaethau diogelu plant lleol gael eu cynllunio, eu darparu a'u monitro.

Daeth Bwrdd Lleol Diogelu Plant (LSCB) Conwy i rym 1 Hydref 2006 fel rhan o ofynion Deddf Plant 2004, ac mae'n disodli'r Pwyllgor Diogelu Plant Ardal a oedd mewn grym ers 1996. Yr LSCB yw'r corff statudol sy'n gyfrifol am ddiogelu plant a phobl ifanc rhag niwed arwyddocaol a hyrwyddo eu lles. Ym mis Mai 2008, unwyd Byrddau unigol Conwy a Sir Ddinbych i greu Bwrdd Lleol Diogelu Plant Conwy a Sir Ddinbych.

Mae gan Fyrddau Diogelu Plant ddwy brif swyddogaeth, sef, cydlynu holl waith asiantaethau i hyrwyddo diogelwch a lles plant,  a sicrhau effeithiolrwydd y gwaith hwnnw.

Mae LSCB Conwy a Sir Ddinbych yn credu bod pawb yn gyfrifol am ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n gweithio i gyflawni hyn drwy:

  • arwain y gwaith o gydweithio â bob asiantaeth yn y gymuned
  • datblygu a sefydlu polisïau a threfnau
  • monitro ac archwilio gweithredu'r polisïau a threfnau hyn
  • sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael
  • hyrwyddo ymwybyddiaeth a chamau gweithredu yn y gymuned ehangach
  • cynnal Adolygiadau Achos Difrifol pan fo plentyn yn marw neu pan fo'n cael ei frifo'n ddifrifol a lle amheuir camdriniaeth neu esgeulustra.

Mae gan bob asiantaeth ddyletswydd i gydymffurfio Ã¢ Gweithdrefnau Diogelu Plant Cymru Gyfan a Diogelu Plant  : Gweithio gyda'n gilydd dan arweiniad Deddf Plant  2004



Os ydych chi'n poeni am unrhyw blentyn ac yn meddwl eu bod yn dioddef o esgeulustra, camdriniaeth neu greulondeb, cysylltwch â:

Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy

Yn ystod oriau swyddfa *    ffoniwch 01492 575111
Tu allan i oriau swyddfa      ffoniwch 01492 515777
*Oriau swyddfa 8.45am tan 5.15pm

Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych

Yn ystod oriau swyddfa *    ffoniwch 01824 712 88
Tu allan i oriau swyddfa      ffoniwch 0845 053 3116
* Oriau swyddfa 8.45am tan 5.15pm Llun - Iau, 8.30am tan 4.30pm Gwener.

Yr Heddlu           ffoniwch 0845 607 1002

Os ydych chi angen cymorth yr Heddlu mewn ARGYFWNG, dylech ffonio 999 bob amser

NSPCC         ffoniwch 0808 800 5000.

Nid oes rhaid i chi wybod popeth am y plentyn a'r hyn sy'n digwydd - os ydych yn bryderus, neu'n teimlo nad yw popeth yn iawn)


Mwy yn yr adran hon

Dolennau'r We

Newidiad diweddaraf i'r safle: 02/09/2010
  |

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, Gogledd Cymru, LL32 8DU.
Ffôn: 01492 574000. Ffacs: 01492 574559. E-bost: gwybodaeth@conwy.gov.uk
Diogelu Data - Rhyddid Gwybodaeth| Hawlfraint a Gwadiadau