Gwneir hyn drwy:
- Annog defnyddwyr hyderus a deallus drwy ddarparu cyngor, gwybodaeth ac addysg
- Cefnogi ysfa gystadleuol a menter yn y gymuned drwy weithio mewn partneriaeth efo busnesau lleol, diwydiant a masnach.
- Sicrhau amgylchedd teg, diogel a chyfiawn drwy sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth a chodau ymarfer.
Ceisiwn gyflawni'r amcanion hyn drwy orfodi 80 o Ddeddfau Seneddol, yn ogystal â channoedd o ddarnau o is-ddeddfau. Yn gyffredinol, caiff y rhestr dyletswyddau statudol ei chategoreiddio i feysydd bras deddfau sy'n ymwneud ag ansawdd, maint, marchnata, disgrifiadau, iechyd a lles anifeiliaid, masnachu ac arferion masnachu teg a diogelwch amrediad llawn o nwyddau a gwasanaethau.
Yn ogystal â'r meysydd gorfodi sy'n draddodiadol gysylltiedig â Safonau Masnach, darperir gwasanaeth cynghori defnyddwyr hefyd.