Nod y cynllun yw annog galwyr diwahoddiad i beidio galw mewn tai mewn 'Parthau Rheoli Galw Diwahoddiad'. Nid eu bwriad yw atal pob galwr ac, felly, ni fydd rhaid i alwyr rheolaidd, gwasanaethau ynni a dŵr, grwpiau crefyddol, canfaswyr gwleidyddol nac elusennau gadw draw. Mae'n bosibl y bydd masnachwyr sy'n gwerthu o ddrws i ddrws yn dal i alw ond dylent bob amser roi rhybudd ymlaen llaw eu bod yn bwriadu galw. Er hynny, os yw'r cartref yn dangos sticer yn amlygu'r ffaith nad oes croeso i alwyr diwahoddiad, yna dylid parchu eu dymuniadau.
Dylai parthau rheoli galwyr diwahoddiad atal masnachwyr ffug, sydd, er enghraifft, yn dweud wrth ddeiliaid tai bod angen gwneud gwaith, ac yna'n codi prisiau afresymol, sy'n gwerthu eitemau o ansawdd gwael am brisiau uchel, neu'n rhoi pwysau arnoch i brynu. Bydd yr ardaloedd hefyd yn ceisio atal y rhai hynny sy'n defnyddio busnes gwerthu o ddrws i ddrws i geisio cyflawni byrgleriaeth drwy dynnu sylw, neu drwy drefnu i gyflawni byrgleriaeth yn y dyfodol.
Syniad y parthau rheoli yw rhoi'r cyfle i ddeiliaid tai ddweud 'NA' gyda'i gilydd i'r arfer o alw diwahoddiad. Dylai parth geisio lleihau'r ofn a'r bygythiad y mae rhai deiliaid tai yn ei deimlo pan fydd y gloch yn canu ac nad ydynt yn adnabod yr ymwelydd.
Mae arwyddion amlwg wedi'u gosod i ddynodi'r parthau ac mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn dangos arwydd ar eu drws y maent yn ei gael o becyn gwybodaeth sy'n cael ei roi at ei gilydd gan wirfoddolwyr Gwarchod y Gymdogaeth.
I gael pecyn troseddau stepen y drws am ddim, neu i gael gwybodaeth bellach am y cynllun yna cysylltwch ag adran Safonau Masnach Conwy.
Ffôn: 01492 575 220
E-bost: gwasanaethau.rheoleiddio@conwy.gov.uk
Cyfeiriad:Y Swyddfeydd Dinesig, Bae Colwyn, LL29 8AR
Cliciwch ar y ddolen isod i weld rhestr o'r Parthau Rheoli Galw Diwahoddiad ledled Conwy.