
Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi mabwysiadu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBLl) ac mae'n ei gydlynu i warchod bywyd gwyllt yn yr ardal leol drwy ffurfio partneriaethau gyda sefydliadau eraill sy'n poeni am yr amgylchedd a cheisio cael cymunedau i gymryd rhan.
Mae CGBLl Conwy yn cael ei lywio gan Bartneriaeth Gwledig Conwy. Mae'n cynnwys cynrychiolwyr grwpiau cadwraeth, asiantaethau amgylcheddol statudol, tirfeddianwyr lleol, a chyrff masnachol, yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae CGBLl yn cynnwys cynlluniau gweithredu ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau prin neu dan fygythiad yng Nghonwy. Lluniwyd y cynlluniau gweithredu hyn gan arbenigwyr lleol nifer o sefydliadu gwahanol yn ogystal â chefnogwyr brwd. Gweithredwyd sawl argymhelliad ers cyhoeddi'r cynllun ac mae llawer ohonynt ar y gweill ar hyn o bryd. Bydd y cynllun yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru yn hwyrach yn 2009/2010.
Mae cynnal a gwella bioamrywiaeth ym Mwrdeistref Sirol Conwy yn broses hirdymor, a bydd yn gofyn am ymrwymiad, ymroddiad a gwaith caled gan yr holl bartneriaid. Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn warchod bioamrywiaeth Bwrdeistref Sirol Conwy i'r dyfodol.
I weld yr hyn sydd yn y CGBLl ar hyn o bryd, defnyddiwch y cysylltiadau isod.
Am wybodaeth bellach cysylltwch efo
Anne Butler, Swyddog Bioamrywiaeth
Ffôn: 01492 575123
Ebost: anne.butler@conwy.gov.uk