Mae ein Gwasanaeth i Blant a Theuluoedd yn rhan o’r Adran Gwasanathau Cymdeithasol, a gallwn ddarparu neu drefnu gwasanaethau sy’n:
- cefnogi plant a phobl ifanc sydd mewn angen a’u teuluoedd
- cwnsela a rhoi cyngor fel bo modd ymdopi â phroblemau sy’n codi o ddydd i ddydd.
Ein nod yw cadw teuluoedd gyda’i gilydd lle bynnag fo hynny’n bosibl.
Rydym yn gweithio’n agos efo plant a phobl ifanc, eu rhieni, perthnasau a gofalwyr eraill, a gyda sefydliadau eraill i ganfod y ffordd orau o ddatrys problemau. Wrth wneud hyn, byddwn bob amser yn ystyried cefndir crefyddol, diwylliannol, a chymdeithasol y plentyn a’r teulu dan sylw.
Os ymddengys bod plentyn mewn perygl neu bod risg ei fod yn cael ei gam-drin, mae’n ddyletswydd arnom i ymchwilio i hyn ac i’w ddiogelu, a sicrhau lles y plentyn hwnnw. Mewn sefyllfaoedd o’r fath, byddwn bob amser yn cydweithio â’r awdurdod iechyd, yr heddlu, ysgolion a’r gwasanaeth prawf.
Gall sefyllfaoedd godi lle na all plant fyw gartref efo’u teuluoedd mwyach, na gyda pherthnasau eraill neu gyfeillion. Yn yr achosion hyn, rydym yn ceisio canfod lle i’r plentyn gyda gofalwyr maeth, neu efallai mewn cartref plant am gyfnod byr.
Rydym hefyd yn recriwtio gofalwyr i fabwysiadu plant ac yn lleoli plant yn barhaol efo nhw.