Mae croeso i blant a theuluoedd yn ein llyfrgelloedd. Rydym yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau a gweithgareddau dwyieithog yn addas i bob oed. Bydd darllen llyfrau a gwrando ar storïau'n cynorthwyo datblygiad eich plentyn boed hynny mewn amser stori, drwy gael hwyl gyda her ddarllen yn haf neu drwy defnyddio’r cyfrifiaduron sydd ar gael am ddim, gallant fwynhau profiadau newydd a gwella sgiliau. Cewch ymuno am ddim a does dim rhaid i blant dalu dirwyon!
O bryd i’w gilydd, rydym yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau arbening ar gyfer ein aelodau iau. Gweler ein tudalen Newyddion a Digwyddiadau i weld beth sydd ymlaen.
Am arweinlyfr o weithgareddau’r haf i blant wedi eu trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gan gynnwys digwyddiadau’r llyfrgell, ewch i waelod y dudalen yma i lawrlwytho’r Arweinlyfr Haf Llawn Hwyl.