Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Sŵn a Niwsans Statudol arall


Summary (optional)
Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn gofyn i ni gymryd camau rhesymol i ymchwilio ac, os yw’n briodol, i gymryd camau ffurfiol pan fo cwynion o niwsans statudol sydd â chyfiawnhâd.
start content

Mae ystod o faterion y gellir delio â nhw fel niwsans statudol sy’n niweidiol i iechyd, neu’n ymyrryd â mwynhad unigolyn o'u heiddo.

Fel arfer, bydd ‘rhain yn cynnwys:  

Sŵn er enghraifft:

  • Cymdogion swnllyd (megis cerddoriaeth uchel, teledu swnllyd, larymau, adeiladu neu waith DIY ar adegau afresymol yn ystod y dydd)
  • Sŵn o leoliadau masnachol neu ddiwydiannol (e.e. adloniant, larymau, aerdymheru, gwaith adeiladu neu ddymchwel)
  • Sŵn larymau car
  • Cŵn yn cyfarth

Mathau eraill o niwsans:

  • Cyflwr gwael yr adeilad, sy’n effeithio ar eiddo cyfagos
  • Mwg, er engrhaifft, o goelcerthi, mygdarth, nwyon, llwch ac arogleuon a allyrrir o adeilad
  • Anifeiliaid a gedwir mewn ffordd sy'n achosi niwsans
  • Golau Artiffisial
  • Pentyrru gwastraff neu garthion


Dolen i Gyngor ar Sŵn gan Lywodraeth Cymru

Nodwch, ni allwn ddelio gyda’r synau canlynol:

  • Sŵn awyrennau (sifil neu filwrol),
  • Synau domestig bob dydd megis toiledau’n fflysio, plant yn crio neu bobl yn siarad ar y stryd

Datrys y mater eich hun

Os ydych yn cael problemau gyda niwsans, lle bo modd, dylech geisio trafod y mater yn anffurfiol gyda'r sawl sy'n achosi'r broblem. Fel arfer gellir ei datrys yn gyflym heb fod angen unrhyw gamau pellach.

Cyflwyno cwyn i’r Cyngor


Pan fo cwyn yn codi, byddwn yn trafod y manylion gyda chi a hefyd yn cysylltu â'r tramgwyddwr honedig i ddatrys y mater yn gyflym.  

 

Os nad ellir ei ddatrys gyda’ch cymydog, bydd angen i chi ein helpu i gasglu tystiolaeth a chofnodi manylion y niwsans.

Mae sawl ffordd i gasglu tystiolaeth:

Yr Ap Sŵn

Gan ddefnyddio’r ap hawdd ei ddefnyddio, gallwch greu dyddiadur sŵn electronig. Bydd gwneud recordiadau sain o’r aflonyddwch yn ein helpu gyda’ch cwyn. Gellir rhannu’r recordiadau’n hawdd gyda swyddogion yn y Tîm Diogelu’r Amgylchedd. Bydd y recordiadau yn ein helpu i bennu a oes niwsans sŵn. Gellir lawrlwytho’r a par ffonau clyfar Android ac iPhone.

Os oes gennych gŵyn presennol am sŵn:

Taflenni cofnodi niwsans

Os nad oes modd i chi ddefnyddio’r Ap Sŵn, neu eich bod yn profi math arall o broblem, dylech ddefnyddio taflenni cofnodi i gofnodi manylion o’r niwsans a sut mae’n effeithio arnoch chi a’ch teulu.

Datganiad Tyst

Efallai bydd y Cyngor yn penderfynu erlyn y sawl sy’n creu’r niwsans. Bydd disgwyl i chi ddarparu datganiad. Heb hyn, efallai ni fyddwn yn gallu cymryd y mater ymhellach.

Gwybodaeth Bwysig

Mae angen i’ch tystiolaeth fod yn wir hyd eithaf eich gwybodaeth a chred.
Os methwch â gwneud hyn, gallech chi fel unigolyn fod yn atebol i erlyniad.

Hawliau Dynol

Wrth gasglu tystiolaeth, mae’n bwysig peidio torri’r ddeddfwriaeth hawliau dynol. Wrth gwblhau eich taflen cofnodi niwsans, peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol.

Colli tystiolaeth

Cofiwch gadw copi o’ch tystiolaeth –nid allwn fod yn gyfrifol am golli unrhyw dystiolaeth a gyflwynwyd.

Mae’r dystiolaeth a gofnodir, ym mha bynnag ddull, yn cynorthwyo Swyddogion y Cyngor i ddeall eich cwyn ac yn eu galluogi i benderfynu a yw’n debygol o gyfrif fel niwsans statudol. Mae hyn yn helpu Swyddogion y Cyngor i nodi patrymau ynghylch pryd mae’r synau’n debygol o ddigwydd rhag ofn y bydd angen iddynt ddod i ymweld.  Efallai bydd y dystiolaeth yn ffurfio rhan o unrhyw achos os yw’r mater yn parhau i’r Llys, un ai drwy weithred y Cyngor neu drwy gymryd camau cyfreithiol eich hun. Heb dystiolaeth ddigonol, ni fydd eich achos yn parhau.

Cwynion Dienw

Ni fydd cwynion dienw fel arfer yn cael eu hymchwilio oherwydd pa mor anodd yw hyn.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content