Neidio i’r cynnwys

Daeth y wybodaeth am Gofgolofnau Llandudno o ffeil a roddwyd yn Archif Conwy. Cafodd y data gwreiddiol ei gasglu gan wirfoddolwyr lleol ar ran y Rhestr Genedlaethol o Gofgolofnau.

Mae'r wybodaeth yn ailadrodd yn union beth sy'n ymddangos ar y cofebion, fel y trawsgrifir gan wirfoddolwyr. Nid ydym yn cadw cofnodion gwasanaeth. Felly mae'n annhebygol y byddem yn gallu rhoi unrhyw wybodaeth bellach.

Cedwir cofnodion gwasanaeth y Fyddin ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf yn yr Archifau Cenedlaethol (The National Archives), ac mae llawer ar gael ar-lein yn www.ancestry.co.uk. Mae ancestry.com  ar gael am ddim i'r cyhoedd yn ystafell chwilio Gwasanaeth Archifau Conwy.

Cedwir cofnodion gwasanaeth yr Ail Ryfel Byd gyda’r MoD (Y Weinyddiaeth Amddiffyn) ac maent ar gael i’r perthnasau agosaf. Os nad yw'r ymchwilydd yn berthynas, rhaid cael caniatâd oddi wrth y perthynas agosaf. Am fwy o fanylion edrychwch ar eu gwefan.

Dewiswch gofgolofn o'r rhestr isod