Yn yr adran hon mae gwybodaeth am werth trethadwy eich busnes a beth i'w wneud os ydych yn dymuno apelio yn erbyn hyn.
Gwerth Trethadwy
Mae gwerth trethadwy eiddo annomestig wedi'i bennu gan Swyddog Prisio'r Asiantaeth Swyddfa Brisio. Bydd pob eiddo annomestig yn cael ei ailbrisio bob pum mlynedd. O 1 Ebrill 2005, bydd gwerth trethadwy eiddo yn cynrychioli ei werth rhent blynyddol ar y farchnad agored ar 1 Ebrill 2003. Ar gyfer eiddo cyfansawdd sy'n rhannol ddomestig ac yn rhannol annomestig, mae'r gwerth trethadwy yn ymwneud â'r rhan annomestig yn unig.
Mae gwerth pob eiddo mewn perthynas â pha drethi sy'n daladwy i'ch awdurdod wedi'u dangos yn y rhestr trethiant lleol, a gallwch weld copi o'r rhestr hon yn swyddfeydd yr Asiantaeth Swyddfa Brisio, y tu ôl i 339 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1EP ac yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU neu ar y wefan www.voa.gov.uk.
Mae pob eiddo annomestig yng Nghymru wedi cael ei ailbrisio fel y mae ar 1 Ebrill 2008 at ddibenion y rhestr ardrethu annomestig leol a fydd yn effeithiol o 1 Ebrill 2010 ymlaen. Mae rhestr ar gael i`w harchwilio yn swyddfeydd yr awdurdod. Mae mwy o wybodaeth (ffôn: 03000 504240) ar gael o'r swyddfa brisio leol neu ar y wefan www.voa.gov.uk/valuation.