Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trethi Busnes Gostyngiadau Trethi Busnes (NNDR) Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022-23

Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022-23 - ostyngiad o 50%


Summary (optional)
start content

Peidiwch â cholli’r cyfle i wneud cais am ostyngiad o 50% oddi ar eich Bil Ardrethi Busnes 2022-23


Mae’n bosibl bod eich Busnes wedi cymhwyso ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn y gorffennol ac efallai eich bod wedi sylwi nad yw hwn wedi’i ddyrannu i’ch cyfrif ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol 2022-23.

Roedd taflen ynghlwm â’ch Bil Blynyddol a oedd yn amlinellu’r newidiadau a wnaed i Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch eleni. Rhoddwyd gwybod i chi y byddai angen i chi gwblhau ffurflen gais eleni er mwyn gwneud cais am y rhyddhad hwn. (Yn y gorffennol, roedd y rhyddhad hwn yn cael ei roi’n awtomatig i hereditamentau cymwys).

Bydd busnesau cymwys sy’n cael eu meddiannu yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi o 50% mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyfredol 2022-23. Fodd bynnag, sylwer y bydd swm y rhyddhad o dan gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru yn cael ei gapio ar £110,000 i bob busnes ar draws Cymru gyfan.

Os ydych chi wedi derbyn Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn y gorffennol ac eisiau gwneud cais:

Os nad ydych chi wedi derbyn y rhyddhad hwn o’r blaen ac yn hoffi mwy o wybodaeth, gellir dod o hyd i gopi o’r canllawiau yma: 

 

end content