Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Carer payment Cynllun Taliadau Arbennig Llywodraeth Cymru

Cynllun Taliadau Arbennig Llywodraeth Cymru


Summary (optional)
Bydd taliad o £500 ar gael i staff gofal cymdeithasol cymwys i gydnabod eu bod wedi bod yn agored i fwy o berygl yn ystod cyfnod hanfodol pandemig Covid-19, rhwng 15 Mawrth a 31 Mai 2020.
start content

A new special payment scheme, as announced by Vaughan Gething, Minister for Health and Social Services on the 17th March 2021, applying to all eligible NHS and social care staff in recognition of their effort during the Covid-19 pandemic is being introduced. The Local Authority is working closely with Welsh Government to finalise the details of this scheme including eligibility and its administration. Further details will be published here once we have final guidance and a formal process in place.It is anticipated that payments will be made in the financial year 2021/22. Should you have any queries please email us on specialpaymentscheme@conwy.gov.uk.

Diben y Cynllun

Mae Cynllun Taliadau Arbennig Llywodraeth Cymru wedi cael ei gyflwyno i gydnabod a gwobrwyo gwaith caled ac ymrwymiad staff gofal cymdeithasol sydd wedi darparu gofal hanfodol i’n dinasyddion mwyaf diamddiffyn yn ystod cyfnod mwyaf heriol pandemig Covid-19.

Sut i hawlio’r taliad arbennig

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn gweinyddu’r Cynllun ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â staff gofal cymdeithasol cymwys o fewn y lleoliadau canlynol:

  • cartrefi gofal preswyle
  • asiantaethau gofal cartref
  • asiantaethau cyflogi

Caiff y Cynllun ei ymestyn hefyd i Gynorthwywyr Personol a gyflogir gan dderbynwyr Taliadau Uniongyrchol, a bydd y rhain yn cael eu rheoli ar wahân.  I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost atom i: taliadau.uniongyrchol@conwy.gov.uk

Sut y byddwn yn gweinyddu’r taliad arbennig


Ein nod yw gweinyddu’r taliadau i staff cymwys ardal Conwy.  Fodd bynnag, os ydych chi'n gweithio ar draws ardal ddaearyddol ehangach, efallai yr hoffech chi gyflwyno eich cais drwy un Awdurdod Lleol gyda chaniatâd ar y cyd. Fyddech chi cystal â rhoi gwybod i ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost isod os hoffech chi wneud cais i’r taliadau gael eu prosesu drwy Awdurdod Lleol arall.  Os yw'ch swyddfa gofrestredig yng Nghonwy, efallai yr hoffech chi gyflwyno eich cais am bob un o'ch staff cymwys i ni. Bydd gofyn i chi gadarnhau ym mha ardaloedd Awdurdod Lleol y mae’ch staff yn gweithio.    

Caiff y taliad arbennig ei reoli drwy broses dau gam. 

Cam 1 (gweler isod): CMae’r Darparwyr Gofal / Cyflogwyr yn hawlio’r taliad mewn perthynas â’u staff cymwys.

Cam 2: Mae’r Darparwyr Gofal / Cyflogwyr yn hawlio cyllid atodol i dalu’r costau a ysgwyddwyd o ganlyniad uniongyrchol i’r taliad arbennigo cover the costs incurred as a direct result of the special payment. 


I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun a phwy sy’n gymwys i dderbyn y taliad, darllenwch y canllawiau ar https://llyw.cymru/cynllun-taliadau-arbennig-y-gweithlu-gofal-cymdeithasol.

Gall Darparwyr Gofal / Cyflogwyr gychwyn gwneud cais am y cynllun taliadau arbennig drwy ddilyn y dolenni canlynol.

Cam 1 – Hawlio taliad arbennig i staff cymwyst

Cyn gwneud cais

Dim ond mewn perthynas â staff gofal cymdeithasol sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyso y gall Darparwyr Gofal / Cyflogwyr wneud cais.  Cyn gwneud cais, mae angen i Ddarparwyr Gofal / Cyflogwyr bennu pwy sy’n gymwys i dderbyn y taliad mewn cydymffurfiad â Chanllawiau Cynllun Taliadau Arbennig Gweithlu Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Er mwyn hawlio’r taliad arbennig, bydd angen i Ddarparwyr Gofal / Cyflogwyr ddarparu Ffurflen Hawlio i bob aelod staff cymwys. Bydd gofyn i staff cymwys lenwi Ffurflen Hawlio, fydd yna’n cael ei chadw gan y Darparwyr Gofal / Cyflogwyr er dibenion trywydd archwilio.  Efallai y bydd gofyn i Ddarparwyr Gofal / Cyflogwyr ddarparu copi o’r Ffurflen Hawlio wedi’i llenwi.

Pryd fydd y cynllun yn agor ac yn cau

Mae’r cynllun ar agor nawr a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 30 Medi 2020.  

Ymdrinnir â’r ceisiadau ar sail y cyntaf i’r felin, a bwriedir gorffen gwneud y taliadau erbyn diwedd Hydref 2020.

Sut i hawlio’r taliad ar ran staff cymwys

Mae gofyn i Ddarparwyr Gofal / Cyflogwyr lenwi rhestr ar wahân ar gyfer staff cymwys a gyflogir yn uniongyrchol ac/neu staff asiantaeth.  

Mae yna ddau dempled ar gyfer pob rhestr (dim ond un y mae angen ei lenwi) er mwyn i chi gadw ac ychwanegu manylion eich aelodau staff sy’n gymwys am y taliad. Yna bydd rhaid i chi lwytho hwn wrth wneud eich cais. Os nad ydych chi’n defnyddio Microsoft Excel, defnyddiwch fformat taenlen ODS (Open Document Spreadsheet).

Cyflwynwch fanylion eich staff ar fformat Excel neu ODS yn unig, neu fe allai eich cais gael ei oedi.

Staff Cymwys yn Gyflogedig yn Uniongyrchol (fersiwn Microsoft Excel)

Staff Cymwys yn Gyflogedig yn Uniongyrchol (fersiwn ODS)

Staff asiantaeth (fersiwn Microsoft Excel)

Staff asiantaeth (fersiwn ODS)


Sut y gwneir y taliadau

Gwneir y taliadau i Ddarparwyr Gofal / Cyflogwyr yn amodol ar dderbyn rhestr lawn o staff gofal cymdeithasol cymwys, ar ôl cael Ffurflen Hawlio wedi’i llenwi a’i llofnodi ar gyfer pob aelod staff cymwys, a fydd yn cael eu cadw.  Nid oes gofyn i chi gyflwyno’r Ffurflen Hawlio fel rhan o’r cais hwn.

Beth sy’n digwydd ar ôl i’r cais gyrraedd?

Byddwn yn cydnabod bod y cais wedi cyrraedd o fewn 10 diwrnod gwaith. 

Ein nod yw prosesu’r cais o fewn 30 diwrnod iddo ein cyrraedd, yn amodol ar ddarparu’r wybodaeth gywir a chynnal y gwiriadau cywir.

Nodyn pwysig: Os bydd unrhyw ddata yn anghyflawn neu’n anghywir, ni fyddwn yn prosesu’r cais nes y byddwn wedi cael rhagor o wybodaeth.

Os caiff eich cais ei gymeradwyo

Os caiff y cais ei gymeradwyo, bydd hysbysiad yn cael ei anfon drwy gyfleuster P2P y Cyngor.

Os na fydd y cais yn llwyddiannus mewn perthynas ag unrhyw aelod staff, bydd neges e-bost yn amlinellu’r rhesymau dros ei wrthod yn cael ei hanfon i’r cyflogwr, ynghyd â manylion y broses apeliadau.

Apelio

Mae modd dilyn y broses apelio yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru (dolen) pan fo hawliad wedi’i wrthod gan y cyflogwr. Os yw’r cyflogwr wedi gwrthod taliad arbennig a’r gweithiwr yn dymuno i’r Awdurdod Lleol ailystyried y penderfyniad, dylid llenwi Ffurflen Gais am Ailystyriaeth. Dylech anfon y Ffurflen Gais am Ailystyriaeth i: timcontractau@conwy.gov.uk er mwyn i ni ailystyried yr hawliad fel rhan o gam 1 y broses apelio.

Os yw’r Awdurdod Lleol yn parhau i ddweud bod y gweithiwr yn anghymwys, bydd llythyr yn cael ei anfon yn nodi’r rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad. Gall y gweithiwr, os yw’n dymuno, fynd â’r apêl i'r ail gam drwy lenwi a dychwelyd Ffurflen Apelio Cam 2.

Datganiad Preifatrwydd

Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn nodi sut yr ydym yn bwriadu prosesu data personol er mwyn cwblhau’r broses taliadau arbennig yng Nghonwy.

Drwy gyflwyno eich cais, rydych yn cytuno i rannu eich gwybodaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Llywodraeth Cymru ac, mewn achosion o dwyll, gyda’r Heddlu.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content