Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Trwyddedau a Hawlenni Mobile Homes (Wales) Act 2013

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013


Summary (optional)
Daeth y Ddeddf uchod i rym ar 1 Hydref 2014. Mae’r Ddeddf yn gymwys i’r holl dir y lleolir cartref symudol arno, er pwrpas cartrefu pobl; gelwir hyn yn safle rheoledig. Nid yw’n gymwys i safleoedd gwyliau, ac mae rhai eithriadau e.e. os yw carafán wedi’i leoli o fewn cwrtil tŷ annedd ac mae defnydd y garafán yn cael ei ddefnyddio er mwynhad y tŷ hwnnw.
start content

Mae Swyddogion Gwarchod Y Cyhoedd yn gweithio ar hyn o bryd efo Busnesau Conwy, asiantaethau a phartneriaid eraill i sicrhau eu bod yn diweddaru eu hunain â Rheoliadau'r Llywodraeth sydd gyda'r nod o gadw preswylwyr yn ddiogel a helpu i atal y lledaeniad o Covid 19.
Mae hi dal yn bosib cofnodi eich cwyn ac rydym yn ymddiheuro o flaen llaw gan mai gwaith ychwanegol yw hyn i ni ar gyfer y misoedd nesaf sy’n golygu bydd oedi gyda’r gwaith o brosesu a delio gyda’ch cwyn.

Mae’n anghyfreithiol caniatáu safle er pwrpas safle rheoledig heb drwydded. Mae’n rhaid i berchennog y tir wneud cais am drwydded safle, gyda'r fantais o ganiatâd cynllunio i ddefnyddio’r tir i’r pwrpasau hynny.

Unwaith mae’r manylion yn eu lle, gellir dosbarthu trwydded am hyd at 5 mlynedd.

Safleoedd Carfanau Preswyl

Er mwyn rhedeg safle carafanau preswyl mae angen trwydded gan yr Awdurdod Lleol.  Mae’n rhaid i'r safle dderbyn caniatâd cynllunio neu hawliau defnydd sefydledig i’w ddefnyddio fel safle carafanau preswyl.  Mae’n anghyfreithlon caniatáu defnyddio safle fel safle rheoledig heb drwydded safle.  Gellir cyflwyno trwydded safle am hyd at 5 mlynedd.

Rhestr o safleoedd carafanau preswyl yng Nghonwy 

SafleTrwydded wedi’i chyflwynoHyd y drwyddedCarafán sengl ar y safleRheolau Safle
Fferm Garth Fawr, Llangwstennin, Cyffordd Llandudno, LL31 9JF 04/03/2016 5 mlynedd x
Maes Carafanau Glan Morfa, Ffordd Maelgwyn, Cyffordd Llandudno, LL31   9BL  12/11/2015 5 mlynedd x x
Little Paddock, Gwellyn Avenue, Bae Cinmel, LL18 5HR 29/07/2015 5 mlynedd x
Tynafallan, Pont-y-Pant, Dolwyddelan, LL25 0PQ 28/04/2015 5 mlynedd
114 Bellvue, Maes Carafanau Gorse Hill, Conwy, LL32 8HJ 13/01/2016 5 mlynedd x
Hendre Waelod, Glan Conwy, Bae Colwyn, LL28 5TN 15/12/2015 5 mlynedd x
Parc Hamdden Whitehouse, Ffordd Towyn, Towyn, Abergele, LL22 9EY  01/03/2016 5 mlynedd x
Berth Ddu, Ffordd Berthddu, Llanrwst, LL26 0PP  12/11/2015 5 mlynedd
Parc Gwyliau Golden Sands, Ffordd y Foryd, Bae Cinmel, y Rhyl, LL18 5NA  05/05/2015 5 mlynedd x  

 

Ffurflen gais am drwydded safle

Rhestr wirio ymgeisio

Dogfennau Ategol

Mae’n rhaid cyflwyno’r dogfennau canlynol gyda’ch cais:

  • Cynllun o’r safle ar raddfa 1/500
  • Asesiad Risg o Dân
  • Rheolau safle.  
  • Tystysgrif Diogelwch Nwy
  • Tystysgrif diogelwch gosodiad trydanol; ac
  • Asesiad Risg iechyd a diogelwch

Bydd peidio â chyflwyno’r wybodaeth ofynnol yn golygu bod eich cais yn annilys.   

Ffioedd

Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn caniatáu i Awdurdodau Lleol godi ffi am gais am drwydded safle carafanau preswyl, cais i ddiwygio amodau, i ddarparu trwydded newydd ac i gyflwyno rheolau safle.

Polisi Ffioedd ar gyfer Cartrefi Symudol

Sut i wneud cais

Gellir lawrlwytho ffurflen gais yma – dolen gyswllt i’r ffurflen gais a rhestr wirio

Y Ffioedd

Mae Conwy CBC, dan ei gynllun dirprwyo wedi pennu’r ffioedd canlynol i’w cymhwyso i’r Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013:

Categori Ffi
I.  Carafán Sengl £90
II. Carafán sengl ar safle cymysg £120
III. Safle bychan (1-10 o garafanau) £230
IV. Safle canolig (11-50 o garafanau) £370
V. Safle mawr (51+ o garafanau) £565
VI. Amodau amrywiol £150
VII. Rheolau’r porthdy £20
VIII. Amnewid trwydded £10


Wrth osod y ffioedd hyn, dilynwyd canllaw Llywodraeth Cymru, a’r gweithredoedd a gysylltir gyda phob swyddogaeth sydd wedi cael eu hystyried yn unig.

Cymhwysedd

Ni roddir trwydded safle i unigolyn y mae'r Awdurdod Lleol yn ymwybodol eu bod wedi meddu ar drwydded safle a gafodd ei ddirymu yn y tair blynedd diwethaf.

Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 wedi cyflwyno prawf unigolyn cymwys ac addas ar gyfer perchennog neu reolwr y safle.  Ar adegau efallai y bydd yn briodol i’r awdurdod lleol geisio gwybodaeth bellach i nodi os oes gan unigolyn euogfarnau perthnasol.

Deddfwriaeth ac Amodau

Mae'n rhaid i ymgeiswyr a deiliaid trwydded ddiwallu gofynion Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Mae amodau o Safonau Enghreifftiol 2008 ar gyfer Safleoedd Carafanau yng Nghymru yn cael ei atodi at y trwyddedau

Canllawiau pellach

Gellir canfod gwybodaeth ar Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 gan gynnwys ffioedd am leiniau, gwerthu a rhoi cartref symudol, rheolau safle a chymdeithasau preswylwyr cymwys ar wefan Llywodraeth Cymru - dolen

  • Perchnogion safle - Cymdeithas Parciau Gwyliau a Pharciau Cartrefi Prydain www.bhhpa.org.uk  
  • Preswylwyr Safle – Cymdeithas Genedlaethol Preswylwyr Parciau Cartrefi www.naphr.co.uk  
  • Mae Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau yn darparu gwasanaeth ar gyfer perchnogion tai symudol a pherchnogion safle www.lease-advice.org  

Gorfodi

Cyflwynodd Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ddarpariaethau gorfodi newydd, sef:

Rhybuddion Cosb Benodedig ar gyfer mân achosion o dorri trwyddedau safle.

Hysbysiadau cydymffurfio

Camau brys pan fo perchennog y safle yn gwrthod neu’n methu â chymryd camau ar unwaith i ddiogelu'r preswylwyr ar y safle.

Rhowch wybod am broblem

Os oes gennych chi unrhyw gwynion neu ymholiadau am safle carafanau preswyl cysylltwch ni.

end content