Mae Marchnad Stryd Bae Colwyn yn gweithredu bob dydd Mawrth a dydd Sadwrn drwy gydol y flwyddyn.
Cynhelir marchnad stryd draddodiadol Bae Colwyn ar Ffordd yr Orsaf a Seaview Road bob dydd Mawrth a dydd Sadwrn ac mae'n cynnig ystod eang o stondinau gan gynnwys nwyddau trydanol, gemau cyfrifiadurol, melysion, nwyddau i'r cartref a nwyddau anifeiliaid anwes.
Ochr yn ochr â'r cigydd a'r gwerthwr llysiau, mae nifer o fusnesau lleol yn gwerthu pasteiod, cacennau a chaws yn y farchnad.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i:
www.facebook.com/Colwyn-Bay-Market
Gwybodaeth Gyswllt Ychwanegol:
Trwyddedig gan The Artisan Market Company
I archebu stondin / trafod 07495 585757 neu 07496198172 e-bost theartisanmarketcompany@gmail.com.