Canllawiau Cronfa Adfywio Cymunedol Conwy (PDF) – a ydych yn gymwys?
Os oes gennych chi syniad prosiect a bod modd i chi gyflwyno cais am gyllid erbyn hanner dydd 16 Mehefin 2025, siaradwch gyda’r tîm drwy anfon e-bost at datblygu.lleol@conwy.gov.uk / ffonio 01492 577 824. Sylwch mai ymarfer cwmpasu cychwynnol yw hwn.
Bydd cymeradwyo ceisiadau grant yn amodol ar Gronfa Allweddol Adfywio Conwy yn cael cymeradwyaeth yr awdurdod rheoli ar gyfer arian UKSPF.
Yn dilyn llwyddiant Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, rydym yn gwneud cais am ragor o gyllid ar gyfer prosiect Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol drwy gyfle Cronfa Ffyniant Gyffredin 2025/26.
Byddai Cronfa Allweddol Adfywio Cymunedol Conwy yn rhoi cyfle i grwpiau ymgeisio am gyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi adfywio eu cymunedau yng Nghonwy.
Gan obeithio’n fawr a chyn derbyn cymeradwyaeth, dyma rannu trosolwg byr o’r hyn y mae angen i ymgeiswyr ei wybod:
- Gallai ymgeiswyr wneud cais am leiafswm o £10,000.00 ac uchafswm o hyd at £75,000.00 ar gyfer prosiectau ar raddfa fawr, a allai gynnwys gwneud gwelliannau i asedau cymunedol neu brosiectau eraill ar raddfa fawr. Mae’n debygol y byddai angen rhywfaint o gyllid cyfatebol.
- Gallai Cynghorau Tref a Chymuned yn Sir Conwy hefyd gael mynediad at swm a glustnodwyd ar gyfer prosiectau llai o hyd at £10,000.00. Byddai angen i’r rhain fod yn brosiectau a fyddai’n gwneud gwahaniaeth amlwg yn eu hardal leol.
- Byddai pob cais yn cael ei asesu fesul achos a bydd cryn gystadleuaeth am gyllid.
- Byddai angen cyflawni a chwblhau’r prosiectau erbyn dechrau 2026.
- Byddai ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am gyflwyno eu prosiectau arfaethedig a llunio adroddiadau cynnydd a monitro rheolaidd i sicrhau bod gwariant ac amserlenni’n cael eu cyflawni o fewn cyfnod cyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Os oes gennych chi syniad prosiect a bod modd i chi gyflwyno cais am gyllid yn fuan, siaradwch gyda’r tîm drwy anfon e-bost at
datblygu.lleol@conwy.gov.uk / ffonio 01492 577 824, er mwyn i ni allu dechrau asesu diddordeb yn y gronfa. Sylwch mai ymarfer cwmpasu cychwynnol yw hwn.
Cyn gynted ag y byddwn yn gwybod a yw ein cais ar gyfer y Gronfa Allweddol Adfywio Cymunedol wedi bod yn llwyddiannus, byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth ynghylch y broses ac amserlenni.