Canlyniad Refferendwm yr UE
Bydd Refferendwm yr UE a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016, pan bleidleisiodd y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn cael effaith ar y cronfeydd Ewropeaidd y bydd gan Gymru fynediad iddynt yn y dyfodol.
Mewn achosion lle mae Llywodraeth Cymru wedi arwyddo ar gyfer prosiectau cronfa fuddsoddi a phrosiectau strwythurol o dan y gyllideb UE sydd wedi ei glustnodi ar eu cyfer cyn Brexit, bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau eu bod yn cael eu hariannu er mwyn cwrdd â'r ymrwymiadau hyn.
Mae hyn yn cynnwys yr holl Gronfeydd Strwythurol 2014-2020, yn ogystal â’r Rhaglen Datblygu Gwledig, Rhaglen Iwerddon-Cymru, Horizon 2020, Erasmus+, a’r rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol.