Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Busnes Datblygu Economaidd Cyllid Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Arian Ewropeaidd ac Allanol?

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Arian Ewropeaidd ac Allanol?


Summary (optional)
 
start content

Mae Arian Ewropeaidd yn arian grant sy’n dod gan y Comisiwn Ewropeaidd – gall Conwy gael mynediad at yr arian gan bod y DU yn aelod-wladwriaeth o’r Comisiwn Ewropeaidd. Mae rhaglenni gwaith arian Ewropeaidd yn dod mewn cylchoedd ariannu saith mlynedd o hyd.

Fel arfer mae’r cyfnod ariannu yn cael ei ddangos yn nheitl y rhaglenni. Mae mynediad at y cronfeydd yn amrywio’n dibynnu ar y materion y maent wedi eu creu er mwyn eu trin. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd unigolion a busnesau yn cael mynediad at y cronfeydd drwy ‘brosiectau’ sy'n cael eu rhedeg gan sefydliadau lleol, rhanbarthol neu genedlaethol.

Arian Allanol yw’r holl arian grant ar wahân, nad yw’n Ewropeaidd, sy’n gweithredu’n genedlaethol dros Gymru neu’r DU. Mae hyn yn cynnwys cronfeydd megis Y Gronfa Loteri Fawr, grantiau gan Lywodraethau’r DU a Chymru, a sefydliadau ac ymddiriedolaethau elusennol.

Sut mae dod o hyd i’r cyllid cywir ar gyfer eich prosiect neu’ch digwyddiad?

Mae amrywiaeth eang o gyfleoedd cyllido ar gael gan gynnwys grantiau, benthyciadau a gwobrau gan lywodraeth leol, llywodraeth ranbarthol a llywodraeth genedlaethol y DU, cyllid Ewropeaidd, ymddiriedolaethau elusennol a noddwyr corfforaethol. Mae gan CBSC fynediad at declyn cyllido sy’n darparu gwybodaeth ar fwy na 8,000 o gynlluniau cyllido – cysylltwch â ni drwy'r Dudalen Gysylltu os hoffech fwy o wybodaeth am y gwasanaeth hwn.

end content