Cynnwys y cynllun
- Beth ydi’r Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol?
- Sut ydym ni’n gweinyddu’r taliad arbennig?
- Sut y gwneir y taliadau?
- Beth sy’n digwydd ar ôl derbyn y cais?
- Datganiad Cyfrin achedd
Bydd staff cymwys yn derbyn taliad trethadwy o £1,498 , fel cyfandaliad neu randaliadau cyfartal dros gyfnod o bum mis. Bydd y taliad yn cael ei wneud i staff gofal cymdeithasol a oedd wedi’u cyflogi i swydd gymwys rhwng 01 Ebrill 2022 a 30 Mehefin 2022.
Pwy sy’n gallu hawlio?
Gall y darparwyr/cyflogwyr canlynol hawlio’r gydnabyddiaeth ariannol ar ran staff cymwys yn unol â’r swyddi cymwys a nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru:
- Gweithwyr gofal sydd wedi’u cyflogi mewn cartrefi gofal cofrestredig (plant ac oedolion) mewn rôl lle bo angen neu y bydd angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Uwch staff gofal, rheolwyr gofal a nyrsys sydd wedi’u cyflogi i weithio mewn cartrefi gofal cofrestredig mewn rôl lle bo’n rhaid cofrestru gyda gofal Cymdeithasol Cymru neu Gyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
- Gweithwyr gofal cartref sydd wedi’u cyflogi gan wasanaethau cefnogi gofal cartref cofrestredig mewn rôl lle bo angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Rheolwr Gofal wedi’i gyflogi gan wasanaethau cefnogi gofal cartref cofrestredig mewn rôl lle bo angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Gweithwyr cefnogi canolfan breswyl i deuluoedd a rheolwr mewn rôl lle bo angen neu y bydd angen cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Mae’r Cynllun wedi’i ymestyn i Gynorthwywyr Personol sy’n cael eu cyflogi gan bobl sy’n derbyn Taliadau Uniongyrchol yr Awdurdod Lleol. Bydd gweinyddu taliadau i Gynorthwywyr Personol yn cael ei reoli ar wahân o dan y Tîm Taliadau Uniongyrchol. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r tîm ar y cyfeiriad e-bost canlynol: taliadau.uniongyrchol@conwy.gov.uk
Cam 2
Gall darparwyr/cyflogwyr hawlio cyllid ychwanegol i gwrdd â’r costau a gafwyd o ganlyniad uniongyrchol i’r taliad a wnaethpwyd dan y Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol. Cyn ymgeisio mae’n rhaid i ddarparwyr/cyflogwyr benderfynu beth oedd eu gwir gostau yswiriant gwladol a/neu bensiynau o ganlyniad i’r taliad a wnaethpwyd yn unol â’r arweiniad.
Bydd y Ffurflen Hawlio Cyflogwr yn cael ei llenwi a’i chyflwyno gyda thystiolaeth ar ffurf detholiad/adroddiad o gyflogres y Darparwr/Cyflogwr yn cadarnhau’r costau yma.
Fel rhan o hawlio cyllid atodol, mae gan Ddarparwyr/Cyflogwyr hawl i gynnwys costau gorbenion/gweinyddu safonol yn £2 fesul hawliad. Yn ychwanegol, gall Darparwyr/Cyflogwyr hawlio costau cyffredinol uwch pan y gallant ddangos bod gweithredu’r taliad £1,498 wedi golygu costau ychwanegol sylweddol iddynt yn fwy na £2 fesul hawliad. Dylid anfon tystiolaeth ategol gydag unrhyw hawliadau o’r fath (er enghraifft anfoneb gan asiantaeth cyflogres).
Bydd yn rhaid i ddarparwyr/cyflogwyr gyflwyno’r hawliad ar gyfer cyllid ychwanegol o fewn wyth wythnos i dderbyn y taliadau £1,498. Gall methu â gwneud hynny arwain at beidio â thalu’r hawliadau yma.
Bydd y ceisiadau yn cael eu trin ar sail y cyntaf i’r felin a bydd y taliadau wedi’u gwneud erbyn diwedd mis 30 Hydref 2022.
Mae yna un templed i chi ei gadw ar gyfer y rhestr o’ch staff cymwys ynghyd â gwir gostau’r yswiriant gwladol ac/neu bensiynau i’r cyflogwr. Bydd angen i chi lwytho hwn wrth wneud eich cais.
Cyflwynwch y manylion mewn Excel neu, fel arall, efallai y bydd eich cais yn cymryd mwy o amser i’w brosesu.
Templed Argostau Darparwyr (fersiwn Microsoft Excel)
Bydd y taliadau yn cael eu gwneud ar ôl i’r darparwr/cyflogwr gyflwyno Ffurflen Hawlio Darparwr ynghyd â thystiolaeth bod y taliad i’r staff cymwys wedi’u wneud. Bydd y dystiolaeth ar ffurf adroddiad ariannol/cyfriflen/detholiad o wybodaeth yn ymwneud â chyflogau sy’n nodi’n glir bod y taliad llawn wedi’i wneud i bob aelod o staff cymwys.
Ar ôl cyflwyno’ch cais, bydd neges awtomatig yn cael ei hanfon atoch i gadarnhau ein bod ni wedi’i dderbyn.
Rydym ni’n ceisio prosesu ceisiadau o fewn 30 diwrnod, yn amodol ar dderbyn yr wybodaeth gywir a chynnal y gwiriadau perthnasol.
Fe all yr Awdurdod Lleol ofyn am y taliad llawn neu ran ohono yn ôl os canfyddir bod y cais yn anghymwys.
Os ydych chi’n cael unrhyw drafferth uwchlwytho ffeiliau mawr, anfonwch neges i: cynlluntaliadauarbennig@conwy.gov.uk.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd [WEDI'I DDIWEDDARU] hwn yn nodi sut rydym ni’n bwriadu prosesu data personol er mwyn cwblhau’r taliad arbennig yng Nghonwy.
Drwy gyflwyno’ch cais, rydych chi’n cytuno i rannu eich gwybodaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Llywodraeth Cymru ac, mewn achosion o dwyll, yr Heddlu.