Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ariannu Hyblyg


Summary (optional)
Mae Ariannu Hyblyg yn ddull newydd o reoli grantiau i sicrhau bod gwahanol grantiau yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi canlyniadau yn well.
start content

Mae Ariannu Hyblyg yn ddull newydd o weithredu grantiau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gwahanol grantiau yn gweithio gyda’i gilydd, er mwyn darparu ymreolaeth well gan yr awdurdod lleol dros ddarpariaeth gwasanaeth, yn arbennig cynllunio a chomisiynu ar y cyd i gefnogi canlyniadau yn well.  Mae’r rhyddid ychwanegol hwn yn caniatáu dull gweithredu strategol wrth ddarparu ymyrraeth gynnar, atal a chefnogi. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae ffordd newydd o weithio wedi cael ei phrofi mewn saith awdurdod lleol ac ar lefel byrddau gwasanaeth cyhoeddus, ac mae Conwy yn un o’r awdurdodau braenaru. 

Ym mis Hydref 2018, penderfynodd Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion y bydd dau grant integredig ar gyfer pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru o 1 Ebrill 2019 ymlaen, sef: 

Grant Plentyn a Chymunedau  

  • Dechrau’n Deg
  • Teuluoedd yn Gyntaf
  • Cronfa Etifeddiaeth
  • Cymunedau am Waith a Mwy
  • Hyrwyddo Ymgysylltiad Cadarnhaol i Bobl Ifanc
  • Gofal Plant a Chwarae
  • Cronfa Dydd Gŵyl Dewi

a’r

Grant Cymorth Tai

  • Cefnogi Pobl
  • Atal Digartrefedd
  • Rhentu Doeth Cymru (Gorfodi)   

 
Bydd y trefniadau hyn yn parhau ar waith am weddill Tymor y Cynulliad.

Dull Gweithredu Conwy

Yng Nghonwy rydym wedi sefydlu pump ffrwd waith i symud y dull gweithredu hwn ymlaen i weithio’n hyblyg,  sef:

Ffrwd Waith 1 – Ymchwilio ac Asesu’r Angen

Ffrwd Waith 2 – Gweithgareddau Rhaglenni a Phrosiectau

Ffrwd Waith 3 – Comisiynu a Phartneriaeth

Ffrwd Waith 4 – Monitro  a Gweinyddu Rhaglenni

Ffrwd Waith 5 – Cydgynhyrchu

Rydym hefyd wedi nodi 6 thema:

  • Rhianta
  • Gofal plant a Chwarae
  • Pobl Ifanc
  • Atal Digartrefedd
  • Cyflogadwyedd
  • Iechyd a Lles

Mae ein trefniadau llywodraethu wedi cael eu hadolygu ac rydym wedi sefydlu Bwrdd Rhaglen sy’n gyfrifol am arolygu’r rhaglen gyfan yn strategol, gyda chefnogaeth Grŵp Noddi, sy’n gyfrifol am y penderfyniad buddsoddi ac am diffinio’r cyfeiriad.  Mae grŵp darparu a thimau prosiect eraill i gefnogi’r ffrydiau gwaith.   

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rheolwr y Rhaglen erica.wyn.roberts@conwy.gov.uk

end content