Mae'n ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol gynnal Asesiad blynyddol o Welliant o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) (2009) (y Mesur) ar gyfer pob awdurdod gwella yng Nghymru, sef cynghorau lleol, parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub.
Er mwyn bodloni'r gofyniad hwn bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflawni:
- Asesiad Corfforaethol - sy'n asesu trefniadau awdurdod i sicrhau gwelliant parhaus; ac
- Asesiad o Berfformiad - sy'n asesu p'un a yw awdurdod wedi cyflawni'r gwelliannau a gynlluniwyd ganddo.
Y nod yw gallu cynnal asesiad sefydliad cyfan ym mhob awdurdod mewn dull safonol. Gyda'i gilydd, bydd y ddau asesiad hyn yn ffurfio sail adroddiad blynyddol i ddinasyddion, sef yr Adroddiad Gwella Blynyddol.
Mae fersiynau hŷn o’r adroddiadau a geir ar y dudalen hon i’w cael ar gais o cidt@conwy.gov.uk.
Archwiliad a rheoliadau allanol