Caiff y dangosyddion perfformiad eu gosod allan gan Lywodraeth Cymru.
Maent yn caniatáu i'r awdurdod fonitro eu perfformiad dros feysydd penodol o waith y cyngor. Wrth ddefnyddio'r ffigyrau mi fedrwn ni gymharu â pherfformiad y flwyddyn a fu, a hefyd gosod targedau am y flwyddyn nesaf i helpu gwella gwasanaethau. Mae'n gadael i ni hefyd gymharu ein perfformiad ag awdurdodau eraill yng Nghymru.
Mae'r Dangosyddion Strategol Cenedlaethol yn ofyniad cyfreithiol a rhaid i bob awdurdod eu casglu ac adrodd yn ôl arnynt yn eu Cynlluniau Gwella.
Casgliad bach o ddangosyddion 'wedi'u ffocysu ar ganlyniadau' ydy'r Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus, wedi eu dethol o'r Fframwaith Mesur Perfformiad sy'n bodoli eisoes.Maent yn adlewyrchu agweddau ar waith awdurdodau lleol y mae'r awdurdodau lleol yn cytuno sy'n cael eu hystyried yn bwysig yn nhermau atebolrwydd cyhoeddus.
Mae modd i wasanaethau'r awdurdod lleol a'u rheolwyr ddefnyddio Data Gwella Gwasanaethau wrth iddynt gynllunio, darparu a gwella gwasanaethau. Mae cyfansoddiad y data yma'n cael ei fireinio gan awdurdodau lleol yn ôl galw a gwerth, yn cael ei goladu'n ganolog a'i rannu o fewn cymuned llywodraeth leol i gefnogi gwella gwasanaethau.
Yn gorfforaethol rydyn ni wedi gosod Dangosyddion Perfformiad Lleol sydd wedi'i seilio ar y Cynllun Corfforaethol 2012-2017. Mi fydd hyn yn ein galluogi i fonitro'n agos os ydyn ni'n cyrraedd yr amcanion a osodwyd yn y cynllun neu beidio.
Mae fersiynau hŷn o'r adroddiadau a geir ar y dudalen hon i'w cael ar gais o cidt@conwy.gov.uk.