Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Ymgynghori ar y gyllideb: Rhagor o wybodaeth


Summary (optional)
start content

Pam bod y Cyngor yn wynebu diffyg yn y gyllideb?

Fel pawb arall, rydym ni wedi gweld prisiau nwyddau a gwasanaethau’n cynyddu, ac mae cost darparu gwasanaethau wedi cynyddu £30 miliwn.  Er y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu rhywfaint o arian ychwanegol tuag at y costau hyn (£4miliwn), nid yw'n ddigon.

Mae nifer o resymau pam mae’r Cyngor yn rhagweld diffyg o £30miliwn:

Cynnydd yn y galw am ein gwasanaethau

Mae’r argyfwng costau byw ac effeithiau hirdymor y pandemig yn golygu bod y galw am ein gwasanaethau yn cynyddu wrth i fwy a mwy o bobl droi at y Cyngor am gymorth.

Mae’r galw am gymorth gwasanaethau cymdeithasol i blant diamddiffyn wedi cynyddu’n sylweddol, yn ogystal â nifer yr unigolion a theuluoedd sy'n datgan eu bod yn ddigartref.

Nid yw ond yn deg bod y Cyngor yn cefnogi pobl ar yr adegau anoddaf, ond mae hynny’n golygu bod cost darparu gwasanaethau yn cynyddu.  Mae’r galw ychwanegol hwn am wasanaethau’n costio tua £6 miliwn.

Pwysau o ran cyflogau

Mae athrawon, gweithwyr y Cyngor a gweithwyr gofal sy’n cael eu cyflogi gan ein darparwyr annibynnol oll yn darparu gwasanaethau hanfodol ar draws y sir, a dylent gael cyflog teg.

Mae felly angen i ni gyfrif am gynnydd mewn cyflogau sy’n cael eu pennu ar lefel genedlaethol.  Mae disgwyl i hyn fod tua £17 miliwn.

Chwyddiant

Er bod chwyddiant yn dechrau gostwng ar ôl ei anterth o 11% y llynedd, mae’n dal yn uchel, ac mae cost tanwydd ac ynni, yn ogystal â chynnydd mewn cyfraddau llog, yn parhau i gynyddu cost popeth a wnawn.

Mae £6 miliwn o’n pwysau ariannol yn deillio o chwyddiant prisiau.

Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru

Ynghyd â phum Cyngor arall y gogledd, mae Conwy yn darparu cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Tân, er ei fod yn sefydliad ar wahân.  Mae’r Awdurdod Tân yn bwriadu cynyddu ei ardoll (y bil i bob awdurdod lleol) 10.8% eleni gan fod eu costau nhw wedi cynyddu hefyd.

Bydd y cynnydd hwn yn y bil gan yr Awdurdod Tân yn ychwanegu £692,000 at bwysau cyllidebol Conwy.

Sut mae’r Cyngor yn bwriadu mynd i’r afael â’r diffyg?

Mae tair ffordd y gallwn fynd i’r afael â’r diffyg:

Newidiadau i wasanaethau

Yn ystod yr un ar ddeng mlynedd ddiwethaf, mae Conwy wedi delio ag £80 miliwn o gostau cynyddol drwy newid gwasanaethau a moderneiddio ein ffordd o weithio er mwyn bod mor effeithlon â phosib’.  Mae’r cyfleoedd i wneud hyn yn prinhau ond rydym wedi ymrwymo i warchod gwasanaethau hanfodol sy’n diogelu’r bobl fwyaf diamddiffyn

Felly, rydym ni’n gweithio’n galed i barhau i leihau costau drwy ddefnyddio technoleg a thrwy leihau nifer ein hadeiladau, yn ogystal â gwneud rhagor o newidiadau i’n gwasanaethau.

Treth y Cyngor

Mae pob canran o gynnydd yn Nhreth y Cyngor yn codi oddeutu £700,000 ac felly nid yw’n bosib’ llenwi’r bwlch drwy Dreth y Cyngor yn unig.  Mae gan Gonwy hanes hir o gadw Treth y Cyngor yn isel, ond nid yw oes modd gwneud hynny mwyach.

Rydym ni’n sylweddoli bod preswylwyr Conwy wedi gweld cynnydd o 9.9% yn Nhreth y Cyngor y llynedd, a bod yr argyfwng costau byw yn parhau.  Fodd bynnag, oherwydd y pwysau, y galw am wasanaethau ac ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, mae’n bur debyg y bydd yn rhaid cynyddu Treth y Cyngor o leiaf 5% ar gyfer 2024/25, a gallai fod yn uwch.

Mae’n bwysig nodi hyd yn oed gyda chynnydd yn Nhreth y Cyngor, bydd angen i ni wneud toriadau sylweddol i wasanaethau o hyd.  Yn dibynnu ar y cynnydd yn Nhreth y Cyngor, yn seiliedig ar eiddo Band D, mae cynnydd o 5% yn cyfateb i £1.52 yr wythnos.  Am bob cynnydd o 1% uwchlaw hyn, byddai'n ychwanegu 30c ychwanegol yr wythnos. (Bydd person sy'n derbyn gostyngiad person sengl neu ostyngiad yn nhreth y cyngor yn talu llai yr wythnos).

Cronfeydd wrth Gefn

Mae’n rhaid i’r Cyngor fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio ei gronfeydd wrth gefn (ei gynilon) gan nad oes gan Gonwy lawer wrth gefn ac mae llawer o’r cronfeydd wedi’u neilltuo at bethau penodol.  Mae’r cyllid wrth gefn hefyd yn gyllid untro – unwaith mae wedi’i ddefnyddio, mae wedi mynd, ac felly nid yw’n gallu cefnogi costau rheolaidd o flwyddyn i flwyddyn.

Mae’n rhaid i’r Cyngor hefyd sicrhau bod ganddo ddiogon o gyllid wrth gefn i ymateb i argyfyngau e.e. storm Babet yn ddiweddar.

Mae gan y Cyngor £4.168 miliwn yn ei gronfeydd wrth gefn cyffredinol ar hyn o bryd, sef 1.5% yn unig o gyllideb y Cyngor. O ystyried sefyllfa ariannol y Cyngor, nid yw defnyddio’r cronfeydd wrth gefn yn ateb i bennu cyllideb 2024/25.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content