Diolch i bawb a aeth ati i lenwi’r arolwg.
Mae ymgynghoriad Sgwrs y Sir wedi dod i ben. Rydym wrthi’n casglu’r ymatebion ar hyn o bryd. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 12 Awst a 10 Hydref 2025.
Bydd y canlyniadau o’r arolwg hwn yn cael eu defnyddio i’n helpu i ddeall beth sy’n bwysig i chi, eich profiadau, a’ch barn am Gonwy a’r Cyngor. Byddant hefyd yn ein helpu i fonitro cynnydd ein Cynllun Corfforaethol, ac i sicrhau ein bod yn gwneud popeth sydd angen i ni ei wneud o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.