Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Dweud eich dweud Ymgynghoriadau Adborth am Ymgynghoriad ar Strategaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Conwy 2021-2026

Adborth am Ymgynghoriad ar Strategaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Conwy 2021-2026


Summary (optional)
start content

Rhwng 24 Mai ac 18 Gorffennaf 2021, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth ddrafft 2021-26.


Roedd 761 o ymatebion i’r holiadur arolwg. Cafwyd cefnogaeth gan yr ymgyngoreion ar gyfer y camau gweithredu canlynol:

  • Cyfrannu at ddarparu Strategaeth Ddiwylliant Conwy drwy gefnogi rhaglen weithredol o weithgareddau diwylliannol.  
  • Parhau i ddatblygu Canolfan Ddiwylliant Conwy.
  • Gwerthuso model y Llyfrgell Gymunedol ar ôl pum mlynedd o fodolaeth. Cytuno ar fodel cynaliadwy ar gyfer y 5 mlynedd nesaf mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned.
  • Parhau i weithio mewn partneriaeth gydag iechyd a gofal cymdeithasol i edrych ar yr amrywiaeth o gyfleoedd mae lleoedd ac adnoddau llyfrgell yn eu darparu i gefnogi iechyd meddwl a lles.
  • Cynyddu’r defnydd o dechnoleg i wella mynediad i wasanaethau gwybodaeth y Cyngor.
  • Datblygu gwasanaethau i gymunedau sy’n bell i ffwrdd o wasanaethau’r Cyngor, drwy ddefnyddio'r llyfrgell deithiol a’r llyfrgell yn y cartref.

Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar Gymryd rhan mewn astudiaeth ddichonoldeb, a nodwyd fel rhan o’r prif gynllun, ar gyfer Canolfan Gymunedol yng ngorllewin Abergele.

Ychydig o wybodaeth sydd yn lleol am y cynigion, gyda 41.5% yn ateb nad oeddent yn gwybod. Bydd y cam gweithredu hwn yn parhau yn y Strategaeth, a byddwn yn awgrymu cynnal ymgysylltiad cyhoeddus fel rhan o unrhyw waith astudiaeth ddichonoldeb.

Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn ar Ddod â gwasanaethau Cyngor Conwy i’r cyhoedd ym Mae Colwyn at ei gilydd, drwy asesu’r posibilrwydd o leoli Llyfrgell Bae Colwyn yng Nghoed Pella.

Roedd 756 o ymatebion i’r cwestiwn hwn, ac nid oedd 74.9% o ymatebwyr yn ei gefnogi.  Yng ngoleuni adborth yr ymgynghoriad, cafodd y cam gweithredu ei addasu i, Cyflawni astudiaeth opsiynau ar gyfer darparu canolbwynt cymunedol yn Llyfrgell Bae Colwyn.

Bydd yr astudiaeth yn edrych ar y posibilrwydd o ddarparu mwy o wasanaethau o’r adeilad llyfrgell presennol a chynyddu mynediad, o bell ac yn bersonol i ystod eang o wasanaethau i gefnogi sgiliau, cyflogadwyedd, cynhwysiant digidol ac iechyd a lles.

Hoffem ddiolch i bawb wnaeth ymateb. Gyda’r diwygiadau a wnaed ar ôl yr ymgynghoriad cyhoeddus, cafodd y Strategaeth ei chymeradwyo gan Gabinet Conwy ar 26 Hydref, 2021.

Gellir gweld fersiwn derfynol Strategaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Conwy 2021-2026 yn Polisïau’r Llyfrgell – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Bydd y camau gweithredu yn y strategaeth yn cael eu blaenoriaethau nawr a bydd gwaith manwl yn cael ei wneud ar bob cam gweithredu dros y 5 mlynedd nesaf.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content