start grid
Ymgynghori ar yr asesiad lles
Ym mis Mai 2026, fe lansiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych ddau arolwg i gasglu barn pobl am y sir, ei dyfodol a’u blaenoriaethau ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus.
Fe gaeodd ymgynghoriad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych ddydd Gwener 31 Gorffennaf 2026. Diolch i bawb a lenwodd yr arolwg.
Bydd y wybodaeth a gesglir drwy’r ymgysylltiad hwn yn cael ei chyfuno â thystiolaeth arall i lunio’r Asesiad Lles, a fydd yn ei dro yn cael ei ddefnyddio gan y BGC i osod amcanion lles. Mae'r amcanion hyn yn tywys sut mae cyrff cyhoeddus yn cydweithio i wella canlyniadau i bobl, cymunedau a'r amgylchedd, ac i sicrhau bod penderfyniadau a wneir heddiw yn helpu i greu dyfodol gwell i genedlaethau'r dyfodol. Mae eich cyfraniad yn helpu i sicrhau bod yr amcanion hyn wedi'u seilio ar brofiad byw ac yn adlewyrchu'r hyn sy'n wirioneddol bwysig i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yma.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych.
end grid
Ymgynghori ar yr Asesiad Lles Ymgynghori ar yr Asesiad Lles