Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Swyddi a gyrfaoedd Gyrfaoedd, Cyfleoedd Datblygu a Lleoliadau Gwaith

Gyrfaoedd, Cyfleoedd Datblygu a Lleoliadau Gwaith


Summary (optional)
start content

Rydym ni’n rhai da am sylwi ar dalent a’i ddatblygu yng Nghonwy. Mewn gwirionedd, mae nifer o’n gweithwyr wedi datblygu eu gyrfaoedd yn dilyn lleoliadau gwaith llwyddiannus.

Rydym yn frwd dros gynnydd, a byddwn yn gweithio gyda chi i gyflawni eich nodau. Rydym yn gwneud hyn drwy ystod o gyfleoedd sydd wedi eu rhestru yn ein Cynllun Dysgu a Datblygu. Cefnogir cymwysterau academaidd a phroffesiynol lle bo’n briodol.

Gall y cyfleoedd datblygu fod drwy ddigwyddiadau hanner diwrnod neu ddigwyddiadau diwrnod llawn, neu drwy ddysgu ar-lein.  Mae’r rhain yn gyfleoedd ar gyfer gloywi eich hyfforddiant yn ogystal â chyfleoedd dysgu newydd.

Rydym yn annog ein staff i dreulio amser yn diweddaru eu setiau sgiliau er mwyn eu cadw’n gyfredol ac yn briodol.

Rydym eisiau i chi fod yn falch o weithio i Gonwy, a charu’r hyn rydych chi’n ei wneud. Ein nod yw eich helpu chi a buddsoddi ynoch chi, er mwyn i chi gael y mwyaf o’ch diwrnod gwaith a chyfrannu i lwyddiant Conwy.

Rydym yn ymdrechu i fod yn gyflogwr delfrydol drwy ddarparu ystod o fuddion ar gyfer ein gweithwyr – dim ond un ohonyn nhw yw mynediad at ddysgu.

Mae ein cynllun dysgu a datblygu cynhwysfawr yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd dysgu. Mae’n cyd-fynd â’n Cynllun Corfforaethol, sydd yn eich helpu i weld lle mae eich dysg yn cyfrannu tuag at gyflawni ein gweledigaeth a’n gwerthoedd.

Caiff hyfforddiant a datblygiad staff ei feithrin o’r diwrnod cyntaf ac mae’n digwydd yn barhaus.

Canfod Lleoliadau Gwaith

Mae gennym ystod eang o leoliadau gwaith di-dâl mewn nifer o’n meysydd gwasanaeth. Mae’r rhain ar gael i bobl o bob oed sy’n chwilio am brofiad gwaith.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu lleoliadau gwaith ymarferol a chynnig ystod o weithgareddau’n seiliedig ar waith, sy’n ystyrlon a boddhaus.

Fel un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal, credwn ei bod yn bwysig ymgysylltu a chynorthwyo pobl i ddatblygu eu sgiliau, a allai arwain at gyflogaeth gyda ni yn y dyfodol.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu lleoliadau gwaith ymarferol a chynnig ystod eang o weithgareddau’n seiliedig ar waith, sy’n ystyrlon a boddhaus.

Mae sgiliau cyflogadwyedd fel cyfathrebu, datrys problemau a gweithio mewn tîm bob amser yn fuddiol.

Gellwch wneud cais am leoliad profiad gwaith mewn maes sydd o ddiddordeb i chi ac fe wnawn ein gorau i’ch helpu.

Bydd cwblhau lleoliad gwaith gyda ni yn rhoi’r cyfle i chi dreulio amser mewn rôl y mae gennych ddiddordeb ynddi a deall y sgiliau sydd eu hangen.

Os nad ydych yn siŵr o’r gwasanaethau’r ydym yn eu darparu a’r amrywiaeth o swyddi sydd gennym ledled y sefydliad, edrychwch ar ein gwefan.

Gwneud cais am leoliad profiad gwaith gyda Chonwy

 

Cysylltwch â ni

E-bost: hyfforddiant@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 576322

end content