Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Swyddi a gyrfaoedd Penodiadau Pwyllgor Penodi Lleygwyr Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Penodi Lleygwyr Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio


Summary (optional)
Rydym yn awyddus i benodi Lleygwyr ar gyfer ein Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
start content

Rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Mae’r pwyllgor statudol hwn yn rhan allweddol o fframwaith llywodraethu a rhaglen wella yr Awdurdod Lleol.  Diben y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw darparu sicrwydd annibynnol ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd ein fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli mewnol, asesu perfformiad, ymdrin â chwynion a chywirdeb y dulliau adrodd ariannol a’r prosesau llywodraethu.  Drwy oruchwylio’r gwaith archwilio mewnol ac allanol, mae’n gwneud cyfraniad pwysig tuag at sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol yn eu lle.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy drefniadau cyfarfod ‘hybrid’ mewn lle a fydd yn rhoi’r dewis i unigolion fynychu cyfarfodydd yn bersonol neu o bell.   Mae hyn yn ei gwneud yn haws i Leygwyr gymryd rhan.  

Ar gyfartaledd mae ein pwyllgor yn cyfarfod bump neu chwech o weithiau’r flwyddyn ac mae Lleygwyr (Aelodau Annibynnol) yn derbyn tâl ariannol am fynychu yn unol â’r cyfraddau a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol  (adran 9, tudalennau 30-31).

Beth yw Lleygwr?

Mae lleygwr yn golygu nad yw’r person:

  1. Yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol,
  2. Ar unrhyw adeg yn y cyfnod o ddeuddeng mis yn gorffen ar ddyddiad y penodiad wedi bod yn aelod nac yn swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol, nac
  3. Yn briod nac yn bartner sifil i aelod neu swyddog mewn unrhyw awdurdod lleol.

Yn ogystal â bodloni’r meini prawf hyn, bydd angen i ymgeiswyr addas fod yn anwleidyddol gyda dealltwriaeth ac ymroddiad i’r 7 Egwyddor o Fywyd Cyhoeddus (Egwyddorion Nolan) a gallu dangos y rhinweddau a’r priodoleddau canlynol:

  • Diddordeb a gwybodaeth/profiad o reoli materion ariannol, risg a pherfformiad, archwilio, cysyniadau a safonau cyfrifeg, a’r drefn reoleiddio yng Nghymru;
  • Meddwl gwrthrychol ac annibynnol gydag agwedd ddiduedd a’r gallu i fod yn gynnil;
  • Cefnogi egwyddorion llywodraethu da a’u defnyddio'n ymarferol er mwyn cyflawni’r amcanion sefydliadol;
  • Meddwl yn strategol gyda sgiliau cyfathrebu ardderchog;
  • Gallu deall a phwyso a mesur tystiolaeth a herio gyda pharch.

Nid yw gwybodaeth fanwl am lywodraeth leol yn angenrheidiol, er y disgwylir i ymgeiswyr posibl fod â diddordeb mewn materion yn ymwneud â bywyd a gwasanaethau cyhoeddus.

O fis Mai 2022 bydd Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio yn cael eu cadeirio gan Leygwr, felly byddai'r parodrwydd a'r gallu i ymgymryd â'r rôl hon yn ddymunol.

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb neu brofiad ym maes llywodraethu, archwilio, rheoli perfformiad neu reoli risg ac yn awyddus i helpu awdurdod lleol i sicrhau ei fod yn cael ei lywodraethu'n effeithiol, gallwch wneud cais ar-lein – nid ydym yn derbyn CVs.  I lenwi’r ffurflen ar-lein bydd angen cyfeiriad e-bost dilys arnoch.

Nid oes seddi gweigion ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar hyn o bryd


Ar ôl i chi wneud cais i fod yn Lleygwr

Byddwn yn ystyried pob cais a dderbyniwn ac yn cysylltu ag ymgeiswyr i ddarparu mwy o wybodaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â committees@conwy.gov.uk

end content