Os oes arnoch angen unrhyw gymorth i lenwi eich ffurflen gais, cysylltwch â thîm swyddi Conwy.
Gwneud cais ar-lein
Pan fyddwch yn gwneud cais ar-lein, peidiwch â defnyddio’r botwm 'yn ôl' ar y porwr gan y gall hyn achosi gwall. Defnyddiwch y botwm ‘tudalen flaenorol’ neu ‘yn ôl’ ar waelod pob tudalen i ddychwelyd i'r tudalennau blaenorol.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi ymrwymo i'w Safonau Iaith Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na ffurflen gais a gyflwynir yn Saesneg.
Gwneud cais mewn pryd
Mae'r holl swyddi yn cau am hanner nos ar y dyddiad cau, ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu derbyn.
Oherwydd ein bod yn copïo ffeiliau wrth gefn, ni fydd y ffurflen gais ar gael bob nos rhwng 10:00pm ac 11:00pm. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich cais mewn da bryd cyn y dyddiad a'r amser cau.
Swyddi mewnol
Nodwch fod y Cyngor weithiau’n hysbysebu swyddi ar gyfer ymgeiswyr ‘mewnol yn unig’ sy'n golygu bod yn rhaid ichi eisoes fod wedi eich cyflogi gan y Cyngor i wneud cais am y swyddi hyn.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.