Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Taith Gweithwyr


Summary (optional)
start content

Conwy yn cyflogi pobl yn syth o’r ysgol

adamAdam - Rheolwr ProsiectGan ymuno â Thîm Adnoddau Dynol Conwy yn syth o’r ysgol, fe gefais blatfform i ddechrau ar fy ngyrfa. Rydw i wedi bod yn gweithio i Gonwy ers 2018 gan weithio fy ffordd i fyny o swydd lefel mynediad i swydd reoli. Ochr yn ochr â hyn, fe anogodd a chefnogodd Conwy fy mhenderfyniad i gychwyn cwrs Gradd BSc mewn Rheoli Busnes. 



Conwy yn cefnogi hyfforddiant a datblygiad graddedigion

sianSian - Partner Busnes Adnoddau DynolYmunais â Chonwy’n syth o’r brifysgol fel Derbynnydd cyn symud i faes Gofal Cymdeithasol, a dyna ddechrau fy ngyrfa AD.  Mae Conwy wedi fy nghefnogi i ennill y cymwysterau yr oeddwn eu hangen ac wedi rhoi cipolwg i mi ar broffesiwn AD. Heddiw rwy’n Bartner Busnes Adnoddau Dynol.  Rydw i’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth yn ystod dyddiau cynnar fy ngyrfa, a’r gefnogaeth, anogaeth a chyfleoedd rydw i’n parhau i’w cael.



Gall Conwy eich cynorthwyo i lunio eich nodau gyrfaol

emmaEmma - Rheolwr Moderneiddio CorfforaetholYmunais â Thîm Gofal Cymdeithasol Conwy fel Cynorthwy-ydd Gweinyddol cyn symud i’r Gwasanaethau Pwyllgor ac yna’r Gwasanaethau Corfforaethol.  Roedd Conwy yn sicrhau fy mod gen i’r wybodaeth i symud ymlaen o ran rheoli prosiect, ac fe wnaethant fy nghefnogi i ennill cymwysterau. Rwy’n awr yn arwain ar Reoli Rhaglenni a Phrosiectau. Fyddwn i erioed wedi rhagweld gweithio yn y maes yma oni bai fod y Cyngor wedi ennyn fy niddordeb a’m cefnogi i ddatblygu. 



Conwy yn cefnogi staff i newid cyfeiriad gyrfaol

craigCraig - Dadansoddwr Systemau GwybodaethAr ôl gyrfa lwyddiannus fel Uwch Reolwr am dros 20 mlynedd gyda Tesco, fe benderfynais ddilyn her newydd a gyrfa ym maes TG, felly fe ymunais â thîm Desg Gwasanaeth TG yng Nghonwy. Mewn ychydig dros flwyddyn, rwyf wedi symud i swydd Dadansoddwr Systemau Gwybodaeth a dechrau Gradd BSc ar sail prentisiaeth mewn Seibrddiogelwch Cymhwysol. Mae Conwy yn ariannu ac yn fy nghefnogi drwy amser astudio sy’n seiliedig ar waith.



Conwy yn cyflogi a datblygu crefftwyr medrus

glynGlyn - Saer ac Arweinydd Tîm YmatebDechreuais weithio gyda’r tîm Mannau Agored gan gynorthwyo i dorri beddi a dyletswyddau claddu.  Gyda chefnogaeth Conwy, fe symudais i swydd crefft fel Saer, gan weithio ar fân waith atgyweirio adeiladau a chynnal a chadw mewn ysgolion, llyfrgelloedd a depos. Rwy’n awr yn Arweinydd Tîm Ymateb.  Rwy’n mwynhau helpu fy nhîm i ffynnu a datblygu eu sgiliau a gobeithio y byddant yn datblygu i fod yn uwch aelodau o staff eu hunain ryw ddydd.



A yw Conwy yn gallu fy nghefnogi drwy fod yn hyblyg?

judithJudith - Cynorthwy-ydd LlyfrgellFe ymunais â Chonwy fel Cynorthwy-ydd Llyfrgell Wrth Gefn. Roedd y swydd yn berffaith gan fod gennyf blant oedran ysgol.  Wrth iddynt fynd yn hŷn, symudais o wneud gwaith wrth gefn i waith rhan amser ac rwyf wedi bod ar gyrsiau i’m cynorthwyo i ddatblygu yn fy rôl. Rwyf wedi derbyn dyrchafiad yn ddiweddar i fod yn Uwch Gynorthwy-ydd Llyfrgell ac wedi cael cyfle i astudio’n rhan amser ar gyfer gradd sylfaen mewn Llyfrgelloedd a Rheoli Gwybodaeth.



A yw Conwy’n cefnogi pobl yn ddiweddarach yn eu gyrfaoedd?

bernieBernie - Swyddog Brysbennu ar gyfer y Canolbwynt Cyflogaeth ConwyYmunais â Chonwy ar ôl 25 mlynedd o wasanaeth gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).  Er fy mod ym mlynyddoedd diweddarach fy ngyrfa, roeddwn yn teimlo bod gennyf lawer i’w gynnig o hyd. Mae fy mhrofiad yn ategu at fy rôl newydd, sy’n heriol ac yn wobrwyol. Rwyf wedi llunio llawer o gysylltiadau newydd ac mae fy nghydweithwyr wedi bod yn hynod gefnogol.  Ni fyddwn yn oedi cyn argymell Conwy fel cyflogwr rhagorol.



Conwy fel Cyflogwr sy’n Hyderus o ran Anabledd

mel-daviesMel - Mentor Cyflogaeth ar gyfer y Canolbwynt Cyflogaeth ConwyRwyf wrth fy modd yn gweithio i Gonwy, maent wedi rhoi nifer o gyfleoedd gwych i mi! Mae gennyf faterion iechyd cymhleth, ond rwyf wedi derbyn cefnogaeth gydag offer arbenigol a chefnogaeth ychwanegol i’m galluogi i wneud fy ngwaith. Rwy’n ffynnu yma ac rwyf wedi derbyn cefnogaeth i ennill cymwysterau lefel gradd. Rwyf wedi rheoli prosiect Hyder a Lles ar secondiad, sydd wedi ehangu fy ngwybodaeth, sgiliau a phrofiad.

Mae Conwy yn cynnig llwybrau gyrfa yn y maes Gofal Cymdeithasol.

sueDyma Sue – Cydlynydd BusnesRwyf yn falch o fod wedi gweithio mewn Gofal Cymdeithasol ers bron i 25 mlynedd, mae wedi rhoi cyfle i mi ddatblygu fy ngyrfa. Rwyf wedi bod yn ffodus o gael gweithio mewn ystod eang o swyddi gweinyddol, yn amrywio o Gyllid, Rheoli Cofnodion i Gydlynydd y Gwasanaethau Rheoli, sydd wedi cefnogi nifer o wasanaethau mewn Gofal Cymdeithasol. Rwyf wedi gwerthfawrogi’r gefnogaeth rwyf wedi ei chael gan fy rheolwyr a chydweithwyr. Rwyf wedi mwynhau llawer o’r buddion staff oedd yn cael eu cynnig, megis gweithio’n hyblyg, gwyliau blynyddol ac absenoldeb salwch. Mae wedi bod yn bwysig i mi wybod bod fy ngwaith wedi fy helpu i gefnogi’r gymuned rwyf yn byw ynddi.

end content