Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Swyddi a gyrfaoedd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant


Summary (optional)
start content

Rydym yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i’r bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Chonwy, ac rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfle cyfartal i bawb. Mae hynny’n cynnwys ein staff.

Ein Staff

Gall gweithwyr a darpar weithwyr ddisgwyl i ni:

  • Greu diwylliant sy’n cydnabod a gwerthfawrogi ein staff
  • Hyrwyddo amgylchedd gwaith sy’n rhoi hawl i urddas a pharch i’n holl weithwyr
  • Adolygu ein ffordd o wneud pethau’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu deddfwriaeth, codau ymarfer cyhoeddedig ac arferion gorau

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Wrth sicrhau cyfleoedd cyfartal, rydym yn croesawu pawb, ac yn mynd ati i annog staff i herio ein ffordd o edrych ar gydraddoldeb. Rydym yn mynd i’r afael â materion cydraddoldeb ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth drwy gefnogi ein Cefnogwyr Cydraddoldeb, sef aelodau staff a enwebir o bob maes gwasanaeth.

Rydym yn adolygu gwybodaeth am ein gweithlu bob blwyddyn fel rhan o’n hadroddiad monitro cyflogaeth. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i glustnodi problemau a chynllunio sut i fynd i’r afael â nhw.

Ein Diwylliant

Ein hegwyddorion arweiniol:

  • Dathlu amrywiaeth a gwahaniaethau
  • Cynhwysiant a hygyrchedd
  • Cael gwared â gwahaniaethu ac anfantais
  • Atebolrwydd

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), i greu Cymru fwy cyfartal, yn ogystal â chefnogi ymrwymiadau ein Cynllun Corfforaethol. Nod ein hamcanion cydraddoldeb yw hyrwyddo cydraddoldeb ac atal gwahaniaethu, ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled gogledd Cymru i gyflawni hyn. Mae gan bob gwasanaeth gamau gweithredu o fewn y cynllun.

Ein Cymuned

Ein nod yw canolbwyntio ar unigolion wrth ddarparu ein gwasanaethau, gan gynnig gwasanaethau a chyfleusterau priodol, hygyrch ac effeithiol i fodloni anghenion ein cymuned.

Rydym yn cydnabod manteision trafodaethau wrth wneud penderfyniadau a chynllunio gwasanaethau. Rydym hefyd yn deall pwysigrwydd cynnwys pawb, gan gynnwys grwpiau a warchodir, fel rhan o’n prosesau, ac fe wnaethom hyn wrth ddatblygu ein Cynllun Cydraddoldeb.

end content