Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Swyddi a gyrfaoedd Ewch i ddarganfod ein buddion

Ewch i ddarganfod ein buddion


Summary (optional)
start content

Pam Conwy?

Rydym yn cydnabod nad ydym ond mor llwyddiannus â’r bobl rydym yn eu cyflogi, ac rydym wedi ymrwymo i werthfawrogi ein tîm. Rydym yn cynnig llawer mwy na dim ond cyflog a delir ar amser.

Gwyliau

Pan fyddwch chi’n dechrau gweithio i ni, byddwch yn cael 26 diwrnod o wyliau yn ogystal ag wyth gŵyl y banc. Os bydd angen i chi weithio ar ŵyl y banc, fe gewch chi dâl ychwanegol am wneud hynny.

Ar ôl pum mlynedd o wasanaeth di-dor, fe gewch chi bum diwrnod yn ychwanegol o wyliau’r flwyddyn. Ar ôl deng mlynedd o wasanaeth di-dor, fe gewch chi ddau ddiwrnod arall o wyliau’r flwyddyn, sy’n gwneud cyfanswm o 33 diwrnod o wyliau’r flwyddyn. Ychwanegwch hynny at yr 8 gŵyl y banc a gallech gael 41 diwrnod o wyliau’r flwyddyn â thâl.

Yn ogystal â gwobrwyo gwasanaeth hir gyda gwyliau ychwanegol, rydym hefyd yn cynnig gwobrau teyrngarwch!

Os ydych chi’n gweithio’n rhan amser, caiff eich gwyliau ei gyfrifo i gyfateb â’r oriau rydych chi’n eu gweithio, sef trefn a elwir yn pro rata. Sylwer: gall gwyliau athrawon a gweithwyr ieuenctid amrywio, ond caiff hyn ei egluro yn eich hysbyseb swydd.

Cydbwysedd Bywyd a Gwaith

Yn dibynnu ar y swydd, rydym yn cynnig nifer o ddewisiadau gweithio i sicrhau cydbwysedd i chi rhwng eich bywyd gwaith a’ch bywyd cartref.

Mae hyn oll a mwy yn cael ei gefnogi gan ein polisïau ystyriol o deuluoedd a gwyliau arbennig. Ar gyfer rhai swyddi, rydym yn cynnig gweithio’n hybrid. Byddwn yn rhoi’r adnoddau i chi i wneud eich gwaith o’r man mwyaf priodol, gan gynnwys swyddfeydd o’r radd flaenaf, gweithio allan yn y gymuned a gweithio gartref.

Mae presenoldeb staff yn bwysig, ond ar yr adegau hynny pan na fyddwch chi’n teimlo’n dda, yn gorfforol neu’n feddyliol, fe wnawn ni eich cefnogi gyda thâl salwch. Byddwn yn eich helpu i ddychwelyd i’r gwaith â gwasanaeth iechyd galwedigaethol, mynediad cyflym at ffisiotherapi a llinell gymorth 24/7 i gael cyngor a chwnsela. Rydym hefyd yn cynnig cynlluniau arian yn ôl ar ofal iechyd.

Iechyd a Lles

Mae eich iechyd a’ch lles yn bwysig i ni ac rydym wedi ymrwymo i feithrin diwylliant sy’n eich cefnogi chi yn y gwaith a gartref.

Rydym yn adolygu’r hyn sydd gennym i’w gynnig i’n staff yn barhaus, ond ar hyn o bryd, i’ch cadw chi’n iach, rydym yn cynnig: ap lles rhyngweithiol, profion llygaid am ddim i bawb sy’n defnyddio cyfrifiadur, gostyngiad ar aelodaeth Ffit Conwy a chynllun prydlesu beicio i’r gwaith.

Ar yr adegau hynny pan na fyddwch chi’n teimlo’n dda, yn gorfforol neu’n feddyliol, fe wnawn ni eich cefnogi gyda thâl salwch, llinell gymorth 24/7 i gael cyngor a chwnsela, gwasanaeth iechyd galwedigaethol, mynediad cyflym at ffisiotherapi a chynlluniau gofal iechyd sy’n rhoi arian yn ôl i chi.

Arian a Ffordd o Fyw

Rydym eisiau eich helpu i gael mwy am eich arian, drwy gynnig adnoddau lles ariannol. Rydym yn adolygu’r hyn sydd gennym i’w gynnig i staff yn barhaus, yn cynnwys:

Strwythur cyflog cystadleuol a gaiff ei adolygu bob blwyddyn, taliadau ychwanegol am weithio y tu allan i oriau gwaith arferol, cynllun pensiwn hael a chynllun cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol rhannu cost i ychwanegu at eich pensiwn. I gael mwy o wybodaeth am ein cynllun pensiwn, ewch i wefan LPGS (www.lgpsmember.org).

Mae nifer o’n swyddi ni yn gofyn i chi deithio o amgylch y sir, felly rydym hefyd yn cynnig cynllun prydlesu car gwyrdd, milltiroedd busnes a gostyngiadau ar deithiau bws Arriva.

Ac os nad yw hynny’n ddigon, rydym yn cynnig cynllun Gwobrau Conwy a’r ap Vectis hefyd. Mae hwn yn borth un alwad sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eich holl fuddion staff, gan gynnwys gostyngiadau mewn siopau, tocynnau rhodd, tocynnau i’r sinema a mwy.

end content