Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gyrfaoedd / Ffeiriau Swyddi


Summary (optional)
start content

Gyrfaoedd / Ffeiriau Swyddi

Yn sgil cyfyngiadau cyllidebol, ni fu modd i ni gynnal Arddangosfa Swyddi Conwy yn yr Ysgubor yn 2025. Serch hynny, roeddem dal yn ymroddedig i gysylltu cyflogwyr gyda phobl sy’n chwilio am swyddi, gan barhau i gynnal ffeiriau llai yn fisol mewn partneriaeth gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau. Cynhaliwyd y digwyddiad yma bob yn ail rhwng Gwesty St George’s yn Llandudno a Chanolbwynt Cymunedol Bae Colwyn, a bu’n llwyddiannus iawn - gan groesawu tua 20 o gyflogwyr a dros 60 o geiswyr swyddi bob mis.

Gan gydnabod pwysigrwydd yr Arddangosfa, yn enwedig ar ddechrau’r flwyddyn pan mae llawer yn awyddus i lansio eu gyrfaoedd, roeddem yn chwilio am ffordd o bontio’r bwlch. Roeddem yn falch o sicrhau Ystafell Wedgewood yng Ngwesty St George gan alluogi i ni gynnal ffair swyddi fawr lle’r oedd mwy na 50 o gyflogwyr yno’n recriwtio. Daeth 290 o bobl oedd yn chwilio am swyddi draw, gan amlygu’r galw mawr am ddigwyddiad swyddi ar draws y sir - felly rydym yn falch o ddweud y bydd yn dychwelyd yn 2026!

Fe wnaethom hefyd gymryd rhan mewn dwy ffair swyddi a drefnwyd gan Sir Ddinbych yn Gweithio ym Mwyty a Bar 1891 yn y Rhyl, a gynhaliwyd ym mis Medi 2025 a mis Chwefror 2025. Rhoddodd y digwyddiadau poblogaidd yma gyfle i ni rwydweithio gyda’n cydweithwyr yn Sir Ddinbych a chysylltu â cheiswyr swyddi oedd yn byw ger ffin y sir.

Ym mis Hydref 2024, roeddem yn rhan o Wella eich Dyfodol, digwyddiad ymgysylltu a datblygu ieuenctid a drefnwyd gan Dîm Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Wedi’i anelu at bobl 15-24 oed, fe ddaeth ag ystod eang o wasanaethau ynghyd i roi cyngor ar swyddi, gyrfaoedd hyfforddiant a sgiliau. Roedd hi’n ddiwrnod prysur a chynhyrchiol lle buom yn ymgysylltu â 40 o bobl ifanc, ac fe gofrestrodd nifer ohonynt ar ein cyrsiau hyfforddi a chefnogaeth i’w helpu i symud mewn i waith.

end content