Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth Achos Cymunedau Am Waith A Mwy


Summary (optional)
start content

Astudiaeth Achos Cymunedau Am Waith A Mwy

Ar ôl mwy na 30 mlynedd yn gweithio mewn chwareli, roedd gofynion corfforol y swydd yn dod yn fwyfwy anodd wrth i Ken heneiddio. Gan sylweddoli ei bod hi’n amser am newid, fe ddewisodd gymryd diswyddiad gwirfoddol ac fe ddechreuodd feddwl o ddifri am newid gyrfa’n llwyr. Gan wybod y byddai’n cael cefnogaeth i wneud y newid, fe gysylltodd Ken â Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy.

Ar ôl i’w atgyfeiriad gael ei brosesu, cafodd Lorraine ei chlustnodi fel mentor Ken ac fe gawsant eu cyfarfod cyntaf o fewn diwrnodau. Yn awyddus i ddychwelyd i’r gwaith, roedd Ken eisoes wedi bod yn ymchwilio i gyfleoedd a chofrestru ar gyrsiau hyfforddi, yn cynnwys Hyfforddiant Gweithiwr Teledu Cylch Caeëdig y Ganolbwynt (Goruchwyliaeth Mannau Cyhoeddus). Fe ymgeisiodd am gefnogaeth hefyd drwy Yrfa Cymru a chyllid ReAct i ymgymryd â hyfforddiant fel Hyfforddwr Gyrru hunan-gyflogedig.

Cwblhaodd Ken y cwrs TCC pedwar diwrnod o hyd yn llwyddiannus, a gydag anogaeth Lorraine, fe gymerodd y cam nesaf a chofrestru ar gwrs Goruchwyliwr Drws SIA. Byddai’r cymhwyster ychwanegol yma’n cryfhau ei CV ac yn ehangu ei gyfleoedd cyflogaeth. Roedd y ddau gwrs yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i gyfarfod cyflogwyr lleol a meithrin cysylltiadau newydd, ac o fewn tair wythnos, roedd Ken wedi pasio’r ddau.

Gyda’i hyfforddiant ar ben, dechreuodd Ken a Lorraine lunio ei CV cyntaf. Gan ei fod wedi bod mewn gwaith sefydlog ers gadael ysgol, roedd hyn yn rhywbeth newydd i Ken, felly roedd hi’n hollbwysig dangos ei sgiliau cryf a’i agwedd eithriadol tuag at waith. Ar yr un pryd, fe basiodd Ken yr elfen theori o’i hyfforddiant Hyfforddwr Gyrru, ac fe ddechreuodd wersi ymarferol.

Gyda’i CV newydd yn barod, dechreuodd Ken ymgeisio am swyddi. Cyflwynodd Lorraine o i Alice, Swyddog Ymgysylltu Cyflogaeth y Canolbwynt, a bu’n ei helpu i gysylltu â chyflogwyr lleol. Yn fuan iawn cafodd gyfweliad gyda chwmni diogelwch lleol ac fe gafodd ffug gyfweliad gan Lorraine ac Alice i baratoi. Fe aeth y cyfweliad yn dda ac fe gynigiwyd y swydd i Ken, ac fe fyddai’n cychwyn cyn gynted ag y byddai ei drwydded Awdurdod y Diwydiant Diogelwch yn cyrraedd.

Tra’i fod yn aros am ei dystysgrif, fe arhosodd Ken yn brysur drwy dderbyn gwaith sifft mewn lleoliadau amrywiol. Roedd hyn yn cynnwys gyrru i gwmni teledu lleol, gweithio sifftiau mewn llety i bobl ddigartref lle defnyddiodd ei hyfforddiant TCC, a gweithio ar safleoedd twristiaeth a hamdden.


Doedd hi ddim yn hir cyn i Ken ddechrau ei swydd lawn amser ym maes diogelwch. Roedd y swydd yn cynnig cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith: pedwar sifft nos 12 awr ac yna pedwar diwrnod i ffwrdd, gan roi cyfle iddo barhau â’i wersi gyrru a mwynhau amser gyda’i ferch ifanc.

Mae Ken yn ddiolchgar iawn i’r Canolbwynt am y gefnogaeth ac arweiniad: “Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi ac Alice am eich holl gefnogaeth dros y misoedd diwethaf. Gan fy mod wedi bod mewn gwaith ers gadael ysgol, roedd canfod fy hun yn ddi-waith yn sydyn yn hynod anodd. Dydw i ddim yn gwybod beth fyddwn i wedi ei wneud heb gymorth Canolbwynt Cyflogaeth Conwy. Mae’r hyfforddiant, cyngor, arweiniad a chefnogaeth gyda fy CV a pharatoi ar gyfer cyfweliad wedi arwain at gyflogaeth llawn amser mewn gyrfa newydd cyffrous ym maes diogelwch. Heb y Canolbwynt a’r cyllid, fe fyddwn i dal ar Gredyd Cynhwysol. Alla’ i ddim diolch digon i chi.”

end content
page rating

A gawsoch beth roeddech yn chwilio amdano?