Cymunedau Am Waith A Mwy
Parhaodd rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl ddi-waith yn Sir Conwy.
Dros y flwyddyn fe wnaethom ymgysylltu â 345 o bobl oedd angen ein cymorth a chefnogaeth, a llwyddom i gael gwaith ystyrlon i 174 ohonynt.
Cafodd gweddill y cyfranogwyr naill ai eu cofrestru ar gyfer un o’n cyrsiau hyfforddi, neu maent yn parhau i dderbyn cefnogaeth fentora er mwyn goresgyn rhwystrau cymhleth.
Canolfannau Gwaith ydi’n prif bwynt atgyfeirio gan gyfrif am 32% o gyfranogwyr newydd yn cofrestru i’n Rhaglen, ond roedd ein hamserlen brysur o ddigwyddiadau a marchnata/ cyhoeddusrwydd yn cyfrif am dros 30% sy’n dangos effeithiolrwydd ein hymdrechion yn ystod y flwyddyn.