Ymgysylltu Â'r Gymuned
Dros y flwyddyn ddiwethaf, cymerodd tîm y Ganolbwynt ran mewn 365 o ddigwyddiadau ar draws y gymuned. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau galw heibio rheolaidd mewn llyfrgelloedd, canolfannau swyddi, banciau bwyd, ffeiriau gyrfaol mewn ysgolion, Canolfannau i Deuluoedd, Ysbyty Glan Clwyd, Canolfan Siopa Bayview, a chanolbwyntiau cymunedol.
Fe wnaethom hefyd gefnogi ystod eang o ddigwyddiadau untro megis Pride Bae Colwyn, Diwrnod Hwyl i’r Teulu Peulwys, Y Picnic Mawr a Cymerwch Ran yn Venue Cymru.
Mae estyn allan fel hyn at y gymuned yn hollbwysig i godi ymwybyddiaeth o’n gwasanaethau a sicrhau ein bod yn parhau i fod yn hygyrch ac yn agos-atoch. Mae mynychu digwyddiadau mewn lleoliadau ymlaciol, croesawgar yn ei gwneud hi’n haws i bobl ymgysylltu â’n mentoriaid, helpu i dorri unrhyw rwystrau y gallent fod yn eu hwynebu i chwilio am gefnogaeth.
Ar draws y flwyddyn, cawsom fwy na 1,590 o sgyrsiau ystyrlon am y cymorth a’r arweiniad rydym ni’n ei ddarparu. Fe wnaethom hefyd gynnig cyngor a chyfeirio unigolion at asiantaethau neu sefydliadau partner pan roedd angen cefnogaeth ychwanegol.