Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth Achos Hyder Yn Dy Hun


Summary (optional)
start content

Astudiaeth Achos Hyder Yn Dy Hun

Roedd Richard wedi bod allan o waith am dros bum mlynedd ac roedd yn dioddef gyda gorbryder ac iselder, gan ei adael yn teimlo’n fwyfwy ynysig. Pan glywodd o gyntaf am brosiect Hyder yn Dy Hun, roedd o’n betrusgar, yn ddealladwy. Serch hynny, gan gydnabod mai dyma’r gefnogaeth yr oedd ei angen, fe gytunodd i gyfarfod â’r Rheolwr Prosiect - ac felly cafodd ei ysbrydoli gymaint gan yr hyn yr oedd wedi’i glywed ei fod wedi cofrestru ar unwaith.

Fe newidiodd y prosiect fywyd Richard. Cafodd y sesiynau grŵp, rhyngweithio cymdeithasol, a gweithgareddau ymgysylltu effaith sylweddol arno, gan gynnwys amgylchedd croesawgar, heb bwysau. Yr un mor bwysig, roedd cysylltu gyda phobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg yn help iddo oresgyn unigrwydd a dechrau ailadeiladu ei hyder.

Y prif beth mae Richard wedi ei ddysgu yw pŵer cymuned a gwerth cefnogaeth naill i’r llall. Creodd y prosiect le diogel i roi cynnig ar bethau newydd, datblygu sgiliau newydd a ffurfio cysylltiadau hirdymor. Roedd cyffyrddiadau bach ond meddylgar - fel darparu cinio yn ystod sesiynau - yn dangos dealltwriaeth fanwl o anghenion cyfranogwyr, yn enwedig yng ngoleuni’r argyfwng costau byw parhaus.

Meddai Sam Trueman, Swyddog Cefnogi’r Prosiect: “Mae Hyder yn Dy Hun yn cynnig rhywbeth sydd wir yn unigryw - gofod diogel, croesawgar a phersonol i bobl sydd angen cefnogaeth i gyflawni eu golau. O’r cyfarfod cyntaf un, rydym yn cydweithio i fapio’r camau nesaf, boed hynny’n dod o hyd i waith, yn gwirfoddoli neu’n ymuno â rhaglen waith.

“Un o’r agweddau mwyaf pwerus yw cefnogaeth gan gymheiriaid. Gall rhyngweithio cymdeithasol fod yn her wirioneddol i nifer ond mae’r rhaglen yma’n meithrin twf personol mewn ffyrdd rhyfeddol. Er enghraifft, yn ddiweddar, fe ddarllenodd ddynes ifanc oedd methu siarad pan ymunodd hi, gerdd o flaen 34 o bobl. Nid oedd ganddi ddiddordeb mewn dod o hyd i waith pan ymunodd hi, ond mae hi bellach yn ei ystyried gan ei bod wedi magu hyder. Mae’r math yma o drawsnewid yn ysbrydoledig iawn ac mae’n ysgogi pawb i barhau i ddatblygu.”

end content