Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hyder Yn Dy Hun


Summary (optional)
start content

Hyder Yn Dy Hun

Fe ganolbwyntiodd Hyder yn Dy Hun ar leihau arwahanrwydd cymdeithasol, meithrin gwytnwch a chynyddu hyder/hunan-barch, wrth ddatblygu sgiliau ymarferol, ariannol, digidol a chyflogadwyedd.

Wedi’i ariannu drwy Gronfa Allweddol Conwy Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, roedd y prosiect yn gyfuniad o weithdai, mentora a gweithgareddau “dewr” a oedd yn llwyddiannus yn meithrin hyder, datblygu sgiliau a chynhwysiad cymdeithasol. Cofrestrodd 89 o gyfranogwyr ar y prosiect a gwnaeth pob un gamau breision yn eu datblygiad personol, ac mae 59 bellach yn chwilio am swyddi.

Cyflwynwyd 133 sesiwn dros y flwyddyn gyda chyfanswm o 1,037 yn mynychu. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth fentora unigol y mae llawer wedi’i gael o ran chwilio am swyddi, paratoi am gyfweliad, yn ogystal â chyfeirio at asiantaethau allanol megis banciau bwyd, gwasanaethau hawliau lles a chyngor ar fudd-daliadau a chwaraeodd rôl hollbwysig yn sicrhau bod cyfranogwyr yn derbyn cefnogaeth gyfannol wedi’i deilwra i’w hanghenion.

Datblygu Lles a Sgiliau

Sicrhawyd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU drwy gronfa Lluosi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU gan olygu bod modd cynnal prosiect Datblygu Lles a Sgiliau ochr yn ochr â phrosiect Hyder yn Dy Hun. Wedi’i ddylunio i wella iechyd corfforol wrth addysgu sgiliau Mathemateg cyflogadwyedd, cynhaliwyd y prosiect yma am dri mis ar ddechrau 2025 gan gefnogi 46 o gyfranogwyr.

Cafodd cyfranogwyr sesiynau tracio ffitrwydd eu cyflwyno i amgylchedd y gampfa drwy sesiynau cynefino strwythuredig dan arweiniad tîm Ffit Conwy. Fe soniodd nifer sylweddol o gyfranogwyr, nifer ohonynt sy’n byw gyda chyflyrau iechyd, am ffitrwydd corfforol gwell, mwy o hunan-hyder ac ymdeimlad newydd o ysgogiad. Cymerodd gyfranogwyr ran mewn sesiynau hyder yn y dŵr hefyd, yn cynnwys ymarferion yn y dŵr a nofio mewn lonydd. Yn galonogol, cafodd unigolion heb brofiad blaenorol o nofio eu cefnogi gan staff a chyfoedion i fynd i mewn a defnyddio cyfleusterau’r pwll.

Cafodd cwrs Cadw Cyfrifon Lefel 3 ei gyflwyno mewn partneriaeth gyda Grŵp Llandrillo Menai oedd yn ymdrin â chadw cyfrifon â llaw a chyfrifeg ar gyfrifiadur gyda Sage. Cynigiodd sesiynau Celf Geometrig a Gwnïo gyfle i gyfranogwyr archwilio technegau celf geometreg a gwnïo yn cynnwys uwchgylchu dillad. Yn sgil hyn, mae’r grŵp wedi mynegi diddordeb i sefydlu busnes bychan i gyfuno eu sgiliau crefft gyda sesiynau dan arweiniad cyfoedion i addysgu a rhannu’r hyn maent wedi’i ddysgu gyda phobl eraill.

Mae effaith y prosiect ychwanegol yma wedi bod bellgyrhaeddol gyda phresenoldeb cryf, canlyniadau dilyniant clir a storïau trawsnewidiol personol yn dod i’r amlwg gan bob carfan. Bydd gwaith celf y cyfranogwyr o’r sesiynau Celf Geometrig a Gwnïo yn ffurfio sail arddangosfa sydd i ddod.

end content