Ymgysylltu  Chyflogwyr
Iechyd Meddwl yn y Gweithle
Cynhaliwyd ein hail Ddigwyddiad Rhwydweithio Busnes Conwy ym mis Ionawr 2025 yng Ngwesty St George’s, Llandudno, gyda ffocws ar Iechyd Meddwl yn y Gweithle.
Fe ymunodd 52 busnes a sefydliad â ni i archwilio pam fod rhaid i iechyd meddwl a lles gweithiwr fod yn brif flaenoriaeth.
Cafwyd cyflwyniadau diddorol gan RCS, Cymru Iach ar Waith a Mind Conwy gan dynnu sylw at brif ffeithiau, yn cynnwys:
- Mae iechyd meddwl gwael yn costio £52 biliwn i gyflogwyr y DU yn flynyddol.
- Am bob £1 sy’n cael ei fuddsoddi yn lles gweithiwr, ar gyfartaledd mae busnesau’n gweld enillion o £4.70 mewn cynhyrchiant gwell.
- Presenoliaeth - pan mae staff yn gweithio tra’u bod yn sâl - mae hyn yn costio tua £24 biliwn bob blwyddyn.
- Ar gyfartaledd, mae 18.6 diwrnod sâl y flwyddyn yn gysylltiedig â gorbryder ac iselder.
Fe wnaethom hefyd groesawu Perkbox/Vivup fel siaradwr gwadd i rannu sut mae eu Rhaglen Lles a Chymorth Gweithiwr yn cefnogi staff ac yn rhoi hwb i foral y gweithle.
Diwrnodau Agored Recriwtio
Fe wnaethom bartneru gyda Chanolfan Chwaraeon Eira Llandudno i gyflwyno Diwrnod Agored Recriwtio, gan gynnig profiad arbennig y tu ôl i’r llen yn yr atyniad arweiniol yma.
Yn y digwyddiad roedd yna ymgysylltu mwy personol rhwng ymgeiswyr a staff, gan greu cyfleoedd gwell i ymgeiswyr a helpu’r Ganolfan lenwi ei swyddi gwag yn fwy effeithiol.
Yn sgil ei lwyddiant, rydym ni’n cynllunio digwyddiad arall yn fuan y flwyddyn nesaf ac rydym ni wrthi’n trafod gyda nifer o gyflogwyr lleol eraill i gyflwyno diwrnodau recriwtio tebyg ar draws y rhanbarth.