Astudiaeth Achos Helpu Pobl Ifanc
Fe gysylltodd prosiect TRAC â Chanolbwynt Cyflogaeth Conwy i gefnogi 15 person ifanc o Ysgol Dyffryn Conwy drwy gwrs hyfforddi arbennig wedi’i ddylunio i’w paratoi â sgiliau oes a llwybr clir mewn i hyfforddiant pellach neu gyflogaeth.
Roedd y bobl ifanc, rhwng 15 a 16 oed, wedi bod yn mynd i’r ysgol, ond roeddynt wedi ymddieithrio o wersi. Pan dynnwyd sylw Elliw Jones at hyn, sef Gweithiwr Lles TRAC yn yr ysgol, fe sylweddolodd yr angen brys am ymyrraeth ystyrlon.
Meddai Elliw: “Mae yna gamsyniad cyffredin am ddisgyblion nad ydynt yn mynd i wersi - mae pobl yn tybio eu bod nhw’n ddiog neu’n camymddwyn. Mae hyn yn hollol anghywir. Mae’r 15 yn dod o gefndiroedd gwledig, amaethyddol. Maen nhw i fyny am 5am i helpu ar y fferm, yn mynd i’r ysgol, ac yn gweithio eto cyn gynted ag mae’r ysgol yn gorffen. Iddyn nhw, ffordd o fyw ydi ffermio - ac yn aml mae’n cael ei ystyried yn fwy gwerthfawr nag addysg.”
Gan wybod bod y Canolbwynt wedi sicrhau cyllid i gyflwyno Prosiect Ymgysylltu Cyflogadwyedd Pobl Ifanc, cysylltodd Elliw â Lyndsay Edwards, Swyddog Ymgysylltu yn y Canolbwynt, i ddatblygu cwrs a fyddai’n rhoi cymwysterau ymarferol oedd yn berthnasol i fywydau a dyfodol y bobl ifanc yma.
Gan weithio gyda WOW Training, cyflwynodd y Canolbwynt gwrs Adeiladu tri diwrnod o hyd yn Llyfrgell Llanrwst. Yn ystod y cwrs, cyflwynwyd y grŵp i’r diwydiant adeiladu ac roedd yn cynnwys hyfforddiant a phrofion ym meysydd Ymwybyddiaeth Asbestos, Diogelwch Ysgolion, Gweithio ar Uchder, Codi a Symud yn Gorfforol, Iechyd a Diogelwch a Chynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu. Roedd cyfle i sefyll prawf gyrru tractor hefyd i’r rhai oedd â diddordeb.
Meddai Lyndsey: “Pan wnaethom ni gyflwyno’r syniad i’r grŵp, roedd yna frwdfrydedd ar unwaith - roedd y 15 eisiau cymryd rhan. Ond roedd gennym ni un amod: roedd yn rhaid iddynt barhau i fynd i’r ysgol a chymryd rhan yn eu gwersi. Rydw i’n falch o ddweud eu bod wedi ymroi yn llawn. Roedd eu hagwedd yn wych, ac roedd hi’n bleser gweld pa mor awyddus oedden nhw i ddysgu sgiliau ymarferol y gallent eu defnyddio. Fe enillodd y 15 ohonynt eu tystysgrifau, ac fe basiodd tri ohonynt eu prawf tractor, ac mae chwech arall wedi archebu eu lle ar ôl iddynt droi’n 16.
I orffen y profiad, fe aeth y grŵp draw i GYG Karting ym Mharc Glan Y Gors, Cerrigydrudion, lle buont yn mwynhau heriau meithrin tîm, gwibio rownd y trac, a chael golwg y tu ôl i’r llen i weld sut mae’r busnes yn gweithredu a’r cyfleoedd swyddi sydd ar gael. Fe greodd Dylan Cai Davies - a enillodd bob her ac a ddangosodd gwir ddiddordeb - gymaint o argraff ar Ashley Davies, Cyfarwyddwr GYG Karting, ei fod wedi cynnig swydd ran-amser iddo a fyddai’n cyd-fynd â’i gwrs coleg peirianneg tir.
Fe fyfyriodd Elliw ar yr effaith: “Roedd y cwrs yn bwynt troi i’r bobl ifanc yma. Rhoddodd reswm iddynt ail gysylltu a meddwl am eu dyfodol. Mae 13 bellach wedi cofrestru yn y coleg, ac mae dau eisoes wedi cael swyddi - canlyniad rhagorol. Mae eu rhieni yn eithriadol o ddiolchgar i TRAC ac i Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy am roi’r cyfle yma i’w plant.”
Dywedodd Libby Duo, Rheolwr Strategol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy: “Mae’r cydweithio yma gyda TRAC yn amlygu pwysigrwydd ymyrraeth gynnar pan mae myfyrwyr yn dechrau ymddieithrio o addysg. Rydym ni mor falch o’r 15 - maent wedi dangos beth sy’n bosibl gyda’r gefnogaeth a’r cyfle cywir. Rydym ni’n dymuno pob llwyddiant iddynt at y dyfodol.”