Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Helpu Pobl Ifanc


Summary (optional)
start content
Cafodd Rhaglen Cyflogadwyedd Pobl Ifanc gyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan alluogi’r Canolbwynt i adeiladu ar ei waith llwyddiannus yn cefnogi unigolion 16-19 oed i ennill sgiliau gydol oes a gweithio tuag at gyflogaeth.

Trwy gydol y flwyddyn, fe aliniodd y Rhaglen yn agos gyda Fframwaith Ymgysylltu ag Ieuenctid Conwy, gan ddarparu cefnogaeth wedi’i thargedu i bobl ifanc mewn perygl o fod yn NEET (ddim mewn Addysg, Gwaith neu Hyfforddiant). Mae ymyrraeth gynnar gyda disgyblion Blwyddyn 11 ar draws Conwy wedi galluogi’r tîm i gyflwyno sesiynau diddorol, anffurfiol a strwythuredig sy’n mynd i’r afael â phrif rwystrau i gyflogaeth - megis hyder is, profiad gwaith cyfyngedig, iechyd meddwl gwael, a gorbryder cymdeithasol.

Fe gefnogodd Swyddogion y Rhaglen bobl ifanc oedd eisoes yn NEET oherwydd heriau megis cyfrifoldebau gofalu, diffyg cymwysterau, neu galedi ariannol. Drwy arweiniad un-i-un, atgyfeirio i wasanaethau ychwanegol, a chymorth ymarferol yn sicrhau sesiynau blasu gwaith a chyflogaeth gynaliadwy, fe wnaeth y Rhaglen wahaniaeth gwirioneddol i fywydau ifanc.

Rhoddwyd cefnogaeth ychwanegol hefyd ar adegau pwysig megis ymgeisio am swyddi, cyfweliadau, a dechrau gweithio - camau y soniodd y bobl ifanc eu hunain oedd yn adegau o straen ar eu hiechyd meddwl.

Mewn chwe mis, fe ymgysylltodd 182 o bobl ifanc â’r Rhaglen, ac fe ddatblygodd 94 i gyrsiau hyfforddi mewn meysydd oedd yn cynnwys:

  • Hyfforddiant Barista
  • Sgiliau Dŵr
  • Pasbort i Adeiladu
  • Hyfforddiant Tractor
  • Gweithdai CV
  • Rheoli Arian
  • Cymorth Cyntaf
  • Hyfforddiant CSCS

Cynhaliwyd menter cyn cyflogaeth wedi’i theilwra “Symud Ymlaen” bob dydd Gwener am chwe wythnos yn Den Ieuenctid Abergele. Roedd yn ymdrin â phynciau megis magu hyder, paratoi at gyfweliad, llunio CV, cyngor ar dai, tra hefyd yn cynnig cyfleoedd am leoliadau gwaith i helpu pobl ifanc gael profiad bywyd go iawn.

Fe lansiodd y tîm GROW (Paratoi ar gyfer Cyfleoedd yn y Gwaith) - menter oedd yn helpu pobl ifanc i gyflawni cymwysterau achredig oedd yn benodol i sectorau Manwerthu, Lletygarwch a Gofal Plant. Roedd cyrsiau’n cynnwys Gwasanaeth i Gwsmeriaid, Cymorth Cyntaf Paediatreg, Hylendid Bwyd, Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl ac Ymwybyddiaeth Alergenau.

Cwblhaodd 12 cyfranogwr hyfforddiant GROW unigryw, gan gyflawni dros 70 achrediad, ac roedd yr effaith i’w weld yn syth:

  • Symudodd 4 yn syth mewn i gyflogaeth
  • Cyfeiriwyd 7 i wasanaeth mentora’r Canolbwynt
  • Cafodd nifer leoliadau i allu datblygu eu CV

Roedd adborth yn arbennig o gadarnhaol. Dywedodd Cam (17), “Fe wnaeth i mi fynd allan o’r tŷ i gyfarfod pobl newydd a chymdeithasu, fe roddodd gymwysterau newydd i mi i symud mewn i waith.” Fe ychwanegodd Beth (19), “Fe ddysgais fwy o sgiliau. Rwy’n teimlo fy mod wedi tyfu fel unigolyn ac rwyf wedi camu allan o fy man cyfforddus - deg allan o ddeg a phump uchel!”
end content