Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cefnogi Partneriaid


Summary (optional)
start content

Cefnogi Partneriaid

Trwy gydol y flwyddyn, chwaraeodd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy rôl hollbwysig mewn nifer o ddigwyddiadau partner allweddol oedd yn hyrwyddo recriwtio cynhwysol a datblygiad proffesiynol ar draws y rhanbarth.

Cynhadledd Cyflogaeth Gynhwysol a Ffair Swyddi

Fe gydweithiodd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy gyda Stand, Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd a Sir Ddinbych yn Gweithio i gyflwyno Cynhadledd Cyflogaeth Gynhwysol a Ffair Swyddi ar 31 Hydref yn Venue Cymru.

Roedd cynhadledd y bore, sef “Gweithlu Amrywiol - Cyflogaeth heb Rwystrau”, yn cynnwys siaradwyr a soniodd am yr heriau, datrysiadau, a strategaethau effeithiol ar gyfer arferion recriwtio cynhwysol.

Yn y prynhawn, fe drawsnewidiwyd y brif neuadd mewn i Ffair Swyddi bywiog lle’r oedd 95 o sefydliadau, elusennau a chyflogwyr arbenigol yn bresennol. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys ystod eang o weithgareddau a gweithdai rhyngweithiol, yn cynnwys sesiynau Iaith Arwyddion Prydain, profiadau celf rhyngweithiol, anifeiliaid, Caffi Lego, Ystafell Synhwyraidd galw heibio, arddangosfa o apiau cynorthwyol, a Bws Profiad Realaeth Awtistiaeth.

Uwchgyfarfod Sefydliad Gweithwyr Proffesiynol Cyflogadwyedd (IEP)

Ar 23 Ebrill 2024, gwahoddwyd Libby Duo, Rheolwr Strategol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy, fel siaradwr gwadd yn Uwchgyfarfod Aelodaeth IEP ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Cyflogadwyedd ar gyfer Tai ac Awdurdod Lleol.

Fe ystyriodd y digwyddiad ar y we werth aelodaeth Sefydliad Gweithwyr Proffesiynol Cyflogadwyedd, gan dynnu sylw at sut mae’n cefnogi sefydliadau ac unigolion i wella ymarfer proffesiynol. Wrth i’r sector cyflogadwyedd barhau i esblygu, fe bwysleisiodd yr uwchgyfarfod bwysigrwydd dal i fyny â safonau a fframweithiau sy’n newid.

end content