Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Mentora Personol


Summary (optional)
start content

Mentora Personol

Yr Allwedd i Oresgyn Rhwystrau a Dod o Hyd i Waith

Mae ein tîm o Fentoriaid yn weithwyr proffesiynol profiadol sydd yn ymroddedig i roi cyngor cyflogaeth arbenigol a chefnogaeth un-i-un ddwys i helpu pobl ddi-waith i symud yn nes at, ac i mewn i waith.

Mae amgylchiadau a siwrnai pawb i mewn i gyflogaeth yn wahanol, a dyna pam ein bod yn cynnig mentora wedi’i bersonoleiddio i bob unigolyn. Mae’r dull yma yn ganolog i lwyddiant ein cyfranogwyr.

Daeth Michelle Little yn Fentor yn 2024 ar ôl gweithio fel Cydlynydd Hyfforddiant yn y Ganolbwynt. Yma mae hi’n adlewyrchu ar ei blwyddyn gyntaf yn y swydd: “Rhoddodd fy amser fel Cydlynydd Hyfforddiant ddealltwriaeth gadarn i mi o’r rhaglen cyflogadwyedd, a’r adnoddau sydd eu hangen i helpu pobl ddelio â marchnad swyddi heddiw. Mae cefnogi pobl eraill wedi bod yn angerdd gen i, felly roedd camu mewn i rôl Mentor yn teimlo’n ddatblygiad naturiol a buddiol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, ‘dwi wedi gweld heriau bywyd go iawn mae ein cyfranogwyr yn eu hwynebu. Mae’r rhain yn cynnwys popeth o anawsterau yn llunio CV a chwilio am swyddi, i fynediad cyfyngedig at adnoddau digidol, cyfyngiadau ariannol, cyfrifoldebau gofal plant, a’r straen emosiynol o fod yn ddi-waith am gyfnod hir.

Gall y rhwystrau yma deimlo’n orlethol - nid yn unig i unigolion sy’n eu profi nhw, ond i’r rheini sy’n ceisio helpu. Rydw i wedi dysgu tra bod cefnogaeth ymarferol fel llunio CV, paratoi at gyfweliad, ac arweiniad i chwilio am swydd yn hollbwysig, yr adnodd mwyaf pwerus y gall rhywun ei gynnig yw cred. Mae cael rhywun yn gefn i chi sy’n gweld eich potensial yn gallu bod yn gatalydd gwirioneddol am newid.

Mae meithrin perthnasoedd gyda chyfranogwyr yn hollbwysig. Pan fydd rhywun yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cefnogi, maen nhw’n fwy agored, a gyda’n gilydd gallwn fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n eu hatal yn well. Mae’r dull yma’n helpu unigolion i fagu hyder, i adnabod eu cryfderau, a dilyn eu golau gyrfaol gyda phenderfyniad newydd.

Rydw i hefyd wedi elwa o wybodaeth gyfunol a phrofiad fy nghydweithwyr - nid mentoriaid eraill yn unig, ond y tîm cyfan. Rydym ni’n gweithio mewn amgylchedd cydweithredol sy’n gwerthfawrogi dysgu ar y cyd, gan ein helpu i wella ein strategaethau a dulliau dros amser.

Yn ogystal, mae ein partneriaethau gyda sefydliadau trydydd parti yn galluogi i ni gysylltu â chyfranogwyr gydag ystod eang o gefnogaeth, o hyfforddiant a chwnsela i adnoddau nad ydym yn eu cynnig yn uniongyrchol. Mae’r rhwydwaith yma o gefnogaeth gyfannol yn cryfhau ein gallu i awdurdodi cyfranogwyr a’u paratoi ar gyfer llwyddiant hirdymor.

Dros y 12 mis diwethaf, rydw i wedi dod i ddeall pa mor bwysig ydi empathi a dealltwriaeth ddwys o anghenion unigol yn y swydd hon. Rydw i wedi tyfu’n broffesiynol ac yn bersonol ac rydw i wedi cael fy ysbrydoli gan wytnwch a phenderfyniad y bobl rwyf wedi’u cefnogi. Mae hi’n anrhydedd ymuno â nhw ar eu siwrnai i gyflogaeth ystyrlon â thâl.”

end content