Hyfforddiant
Roedd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy yn llwyddiannus yn cael cyllid gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Y DU i gyflwyno amrywiaeth o fentrau hyfforddiant, helpu pobl ar draws y sir i ennill sgiliau, profiad a hyder:
Llwybrau i Gyflogaeth
Roedd rhaglen Llwybrau yn canolbwyntio ar uwchsgilio unigolion i’w helpu i ymuno â’r farchnad swyddi neu symud i gyflogaeth o safon well o fewn sectorau sy’n wynebu prinder yn y farchnad lafur.
Mynychodd cyfanswm o 260 o gyfranogwyr amrywiaeth eang o gyrsiau, yn cynnwys:
- Cymhorthydd Addysgu Lefel 3 CACHE
- Chwaraeon a Hamdden
- Twristiaeth a Lletygarwch
- Adeiladu
- Diogelwch
Roedd mwyafrif y cyrsiau yma’n cynnwys elfen profiad gwaith gwerthfawr. Roedd sesiynau ychwanegol yn canolbwyntio ar ddatblygiad personol a pharodrwydd y gweithle, gan ddelio â phynciau megis:
- Sgiliau Digidol Hanfodol
- Ymwybyddiaeth o Gymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Yn nodweddiadol, unigolion sydd yn barod i weithio neu’n agos at fod yn barod i weithio ydyn nhw, gan gynnwys y rhai sydd mewn swyddi ansefydlog neu dymhorol sy’n chwilio am swyddi mwy cynaliadwy.
Cyflogaeth Gymunedol â Chymorth
Mewn partneriaeth â Crest, cyflwynodd y Canolbwynt rhaglen Gyflogaeth Gymunedol â Chymorth - gan gynnig lleoliad gwaith 12 wythnos o hyd gyda thâl mewn sectorau fel manwerthu, gyrru ac adnewyddu.
Ochr yn ochr â phrofiad gwaith ymarferol, cafodd cyfranogwyr gefnogaeth bersonol, yn cynnwys:
- Hyfforddiant cyflogadwyedd un-i-un a grŵp
- Datblygu CV ac arweiniad i chwilio am swyddi
- Hyfforddiant sgiliau wedi’i deilwra i anghenion unigol
Cyflwynwyd tri o gynlluniau Cyflogaeth Gymunedol â Chymorth dros y flwyddyn, yn cefnogi 39 o unigolion i gymryd y cam nesaf cadarnhaol tuag at gyflogaeth hirdymor. Yn dilyn eu lleoliad 12 wythnos, aeth 16 cyfranogydd i waith llawn amser, aeth 6 i wirfoddoli, ac aeth 1 i addysg llawn amser.
Cymorth Rhifedd Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu (TENS)
Dyluniwyd rhaglen TENS i helpu oedolion wella eu sgiliau rhifedd a magu hyder yn defnyddio mathemateg yn eu bywyd bob dydd ac yn y gweithle.
Gweithiodd y Canolbwynt yn agos gyda budd-ddeiliaid allweddol a phartneriaid cyflawni yn cynnwys Grŵp Llandrillo Menai, CEF Berwyn, y Gwasanaeth Prawf, Cydweithfa Crest, Timau Tai a Digartrefedd, Canolfannau i Deuluoedd, a Banc Bwyd Abergele i gyrraedd y rhai sydd â’r angen mwyaf.
Roedd y pynciau’n cynnwys:
- Gweithdai i rieni gefnogi plant gyda gwaith cartref mathemateg
- Mathemateg galwedigaethol (e.e. weldio a phlymio)• Sgiliau bywyd bob dydd (e.e. cyllidebu, slipiau cyflog a rhent)
- Magu hyder gyda rhifau
- Gweithdai “Costau Byw”, a “Chyllidebu am Oes”
- Rhaglen Rhifau yn y Gwaith
Fe ymgysylltodd 102 o bobl gyda rhaglen TENS, ac fe aeth 70 ymlaen i gwblhau cwrs neu weithgaredd oedd yn canolbwyntio ar rifedd. Fe sicrhaodd y dull dysgu mewn grŵp bychan bod cyfranogwyr yn elwa o gael amgylchedd mwy ymlaciol, cefnogol gyda mynediad cynyddol i wersi un-i-un.