Croeso
Croeso i Adroddiad Blynyddol Canolbwynt Cyflogaeth Conwy ar gyfer 2024-25.
Dechreuodd y flwyddyn gyda heriau sylweddol wrth i ni ddysgu y byddai rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy yn cael 35% yn llai o gyllid gan Lywodraeth Cymru. Fe greodd hyn gyfnod o ansicrwydd; serch hynny, buom yn ffodus o gael newyddion cadarnhaol yn nes ymlaen fod cyllid ychwanegol wedi cael ei sicrhau gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Chronfa Ffyniant Gyffredin Allweddol Conwy. Mae’r ddwy ffrwd yn ffurfio rhan o agenda Ffyniant Bro y DU i gefnogi twf economaidd lleol.
Galluogodd y cyllid yma i ni nid yn unig barhau â’r holl raglenni sydd eisoes yn bodoli, ond cyflwyno amrywiaeth o fentrau newydd hefyd. Roedd y rhain yn cynnwys rhaglen Cyflogaeth Gymunedol â Chymorth mewn partneriaeth gyda Crest, rhaglen Cymorth Rhifedd Cyflogadwyedd wedi’i Dargedu, a chefnogi’r Tîm Atal Digartrefedd gyda Mentor Cyflogaeth i Bobl Ddigartref dynodedig. Fe sicrhaodd hefyd fod ein staff presennol yn gallu aros yn eu swydd am flwyddyn arall, ac fe gyflwynwyd sawl aelod tîm newydd i gefnogi gwasanaethau wrth iddynt ehangu.
Fe barhaodd Cymunedau am Waith a Mwy wrth wraidd rhaglen y Canolbwynt drwy gydol y flwyddyn. Fe wnaethom ddarparu cefnogaeth fentora un-i-un i 345 o breswylwyr ar draws Sir Conwy, gan helpu 174 ohonynt mewn i gyflogaeth. Mae’r 171 sy’n weddill yn parhau i gael cefnogaeth barhaus drwy hyfforddiant, cwnsela a chymorth cyflogaeth wedi’i deilwra.
Gan edrych ymlaen, rydym wedi cael cadarnhad y bydd cyllid Cymunedau am Waith a Mwy yn parhau ac rydym wedi sicrhau cefnogaeth ychwanegol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan olygu bod y flwyddyn sydd i ddod yn argoeli i fod yr un mor brysur a buddiol.
Libby Duo
Rheolwr Strategol, Canolbwynt Cyflogaeth Conwy