Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Prosiect Cynnydd


Summary (optional)
start content

Prosiect Cynnydd


Mae’r Canolbwynt hefyd yn gweithio gyda Phrosiect Cynnydd sy’n cefnogi pobl ifanc 16-25 oed sy’n byw yng Nghonwy ac sy’n wynebu rhwystrau sylweddol i addysg, gwaith neu hyfforddiant.

Mae Prosiect Cynnydd yn cynnig gwasanaeth mentora personol ac yn gweithio’n agos ag ysgolion lleol, Mind, Prosiect y Dderwen, Gwasanaeth Ieuenctid Conwy, Gyrfa Cymru, amrywiaeth o ddarparwyr hyfforddiant yn ogystal â chyfeirio at asiantaethau perthnasol sy’n nodi cymorth priodol. Drwy ymgorffori cymorth personol, mae’r Prosiect Cynnydd yn gweithio gyda phobl ifanc i fagu eu hyder a’u hunan-barch yn eu pwysau eu hunain.

Drwy gydnabod y rhwystrau sylweddol y mae pobl ifanc ar y Prosiect Cynnydd yn eu hwynebu, mae 28 wedi symud ymlaen yn llwyddiannus i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant ac mae 17 o bobl ifanc wedi'u cyfeirio at wasanaethau perthnasol yn unol â'u hanghenion.

Mae ymgysylltu â’r Prosiect Cynnydd hefyd yn golygu dechrau unrhyw ymyrraeth â gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol eraill pan fo cymaint o bobl ifanc yn wynebu arwahanrwydd cymdeithasol, materion iechyd meddwl a diffyg sgiliau wrth adael yr ysgol.  Mae’r Prosiect Cynnydd yn rhoi cyfleoedd i feithrin ymddiriedaeth â phobl ifanc gan ei gwneud yn haws iddyn nhw ddatblygu a chanfod cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw a’u cynnydd.

Astudiaeth Achos Cynnydd


Cyfeiriwyd Thalia at y Prosiect Cynnydd ym mis Ionawr 2022.

Ei rhwystrau pennaf oedd mân anawsterau dysgu, arwahanrwydd cymdeithasol, diffyg sgiliau, ac anhawster o ran ymgysylltu â gwaith, addysg a hyfforddiant. Er gwaethaf y rhwystrau hyn, roedd Thalia’n cael ei chyflwyno i waith nad oedd yn addas ar ei chyfer nac yn cynnal ei hanghenion felly ymchwiliodd ei mentor Prosiect Cynnydd i wahanol ddewisiadau a oedd yn fwy addas iddi.

Clywodd ei mentor am Raglen WeDiscover, WeMindTheGap o Ganolbwynt Cyflogaeth Conwy.  Mae hon yn rhaglen drawsnewidiol ac arloesol sy’n cynnwys cymorth, gofal, sgiliau a phrofiad gwaith.  Cofrestrodd Thalia ar y rhaglen 10 wythnos a oedd yn cynnwys gweithdai rhyngweithiol a llawn hwyl i helpu i ddatblygu sgiliau, amryw o siaradwyr gwadd ysbrydoledig o amrywiaeth o gefndiroedd a diwydiannau a chafodd fenthyg gliniadur. Roedd Thalia wrth ei bodd â’r Rhaglen - gwnaeth hi ffrindiau newydd, rhoddodd y cyfarfodydd dros y we bwrpas iddi ac roedden nhw’n rhywbeth iddi ddeffro iddynt bob bore. Cymerodd ran ym mhob trip a drefnwyd a’u mwynhau.

Yn ystod y cyfnod hwn, roedd mentor Prosiect Cynnydd Thalia yn chwilio am waith addas iddi ac ymchwiliodd i interniaethau yn Ysbyty Glan Clwyd yn rhan o Brosiect DFN, SEARCH ar gyfer pobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.  Roedd Thalia wrth ei bodd â’r syniad o’r rhaglen oherwydd ei bod yn rhoi hyfforddiant arbenigol a phrofiad gwaith mewn lleoliad gwaith go iawn, ynghyd â chymorth i ddod o hyd i swydd sy’n talu yn ystod y rhaglen.  Gyda chymorth ei mentor, gwnaeth Thalia ymgeisio ar gyfer y Rhaglen ac ers hynny mae hi wedi cael swydd fel gweithiwr gofal.

end content