A oes angen help a chefnogaeth arnoch i ddod o hyd i gyflogaeth, neu a hoffech chi ymgymryd â chyfle hyfforddi newydd?
Mae'r Tîm Cymunedau am Waith yn cynnal Clinigau Cyflogadwyedd rheolaidd mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau.
Mae Cymunedau am Waith wedi helpu llawer o bobl i ddod o hyd i waith cynaliadwy yn ogystal â helpu llawer o bobl i gael hyfforddiant. Yn ogystal â helpu pobl sydd allan o waith, mae ein tîm hefyd yn gweithio i gefnogi pobl sydd am wella eu sgiliau a symud i gyflogaeth fwy arwyddocaol.
Mae'r Clinigau hyn yn cynnig cyfle i bobl ddod i wybod am y gwahanol fathau o gefnogaeth y gall Cymunedau am Waith eu cynnig. Beth am ddod draw i un ohonyn nhw a gweld sut y gallwn ni eich helpu chi?
Amserlen y Clinig*
Lleoliad | Diwrnod | Amseroedd |
Canolfan Dinorben Abergele, Faenol Ave, Abergele |
Dydd Mercher cyntaf bob mis |
11am - 2pm |
Llyfrgell Cinmel |
2il Dydd Mawrth bob mis |
10am - 12pm |
Canolfan Deulu Llanrwst, Watling Street, Llanrwst |
2il Dydd Iau bob mis |
10am - 2pm |
Llyfrgell Llandudno |
3ydd Dydd Mawrth bob mis |
11am - 3pm |
Itaca, Abergele |
3ydd Dydd Iau bob mis Nodwch na fydd clinig ym mis Chwefror |
10am - 2pm |
Tŷ Cymunedol Peulwys, Hen Golwyn |
4ydd Dydd Mawrth cyntaf bob mis |
1pm - 3pm |
Dysgwch ragor am ‘Cymunedau am Waith'
Gwnewch atgyfeiriad i gael cymorth a chefnogaeth
