Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Astudiaeth Achos Hickory's


Summary (optional)
Rhaglen swyddi a hyfforddiant ARLOESOL yn gweini rôl flasus newydd i Jason Davies.
start content

Mae Jason, o Hen Golwyn, nawr yn gweithio fel porthor cegin yn Hickory’s Smokehouse, Llandrillo-yn-Rhos, diolch i gefnogaeth Canolbwynt Cyflogaeth Conwy.

Mewn partneriaeth gyda chynllun lleoliadau’r bwyty ‘Smokehouse Stars’ a’r Adran Gwaith a Phensiynau, dilynodd y dyn 34 oed gwrs naw wythnos, sydd wedi magu ei hyder, ac roedd yn cynnwys sesiynau ar waith tîm a chyfathrebu, sut i ysgrifennu CV a phrofiad bywyd go iawn.

Roedd Canolbwynt Cyflogaeth Conwy - sy’n goruchwylio Cymunedau am Waith, PaCE a Chymunedau am Waith a Mwy - ar gael i’w ddarparu gyda dillad ac esgidiau gwaith, mentora a chyngor a chyfarwyddyd trwy’r Adran Gwaith a Phensiynau.

“Fe wnes i wir fwynhau’r cwrs, ac rydw i’n hynod o falch o gael swydd ar ei ddiwedd oherwydd mae’r tîm yma yn Hickory’s yn wych, maent yn hwyliog ac wedi fy helpu’r holl ffordd,” meddai Jason.

“Roedd yn wych cael cwrdd â ffrindiau newydd, ac rydw i’n edrych ymlaen at ddysgu mwy.

Mae’r Canolbwynt Cyflogaeth wedi dileu rhwystrau i mi wrth ganfod a sicrhau’r swydd hon, felly byddaf yn ddiolchgar iddynt am byth am y cyfle hwn.”


Ychwanegodd Libby Duo, Rheolwr Strategol Gwasanaeth Cyflogaeth Conwy:

“Rydym wrth ein boddau dros Jason, fe ddangosodd ymrwymiad gwych drwy gydol y cwrs, a chafodd ei wobrwyo gyda swydd barhaol.

Mae’n llawn haeddu hyn, a dymunwn yn dda iddo ar gyfer y dyfodol.”


Roedd yr Ymgynghorydd Wendy Harrison o Gymunedau am Waith yn falch o gyflawniad Jason hefyd, a dywedodd:

“Roedd Jason yn awyddus iawn i ddychwelyd i’r gweithle, a chael mynediad i’r hyfforddiant naw wythnos gyda Hickory’s.

Rydw i’n falch iawn, roeddwn yn gwybod y byddai’n gwneud yn dda, ac rydw i’n sicr y bydd yn gaffaeliad i dîm y bwyty.”


Archwiliodd adroddiad diweddar ar y farchnad lafur, gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarth Gogledd Cymru effaith pandemig y coronafeirws ar ddiwydiannau allweddol, gan gynnwys twristiaeth a lletygarwch, sy’n 25% o swyddi yng Nghonwy.

Mae diffyg ymgeiswyr a sgiliau’n parhau i fod yn her sylweddol ledled y rhanbarth, sef pwynt a adleisiodd Prif Gogydd Hickory’s, Luke King.

“Mae recriwtio i’r sector hwn wedi bod yn anodd oherwydd y pandemig, felly mae mentrau fel y cwrs lleoliad gwaith hwn yn werthfawr iawn,” meddai.

“Mae Jason wedi bod yn gaffaeliad ardderchog, ac wedi gweithio’n galed drwy gydol y broses. Rydym yn falch iawn o’i gael fel rhan o’r tîm.”


Ychwanegodd James Taylor, Cydlynydd Rhaglen Hyfforddiant Hickory’s: Daeth Jason yn rhan hanfodol o’r tîm cefn tŷ yn gyflym, ac fe fagodd perthnasau gwaith cryf gyda’r sawl o’i amgylch.

“Pobl fel Jason yn ymuno â ni ar lefel mynediad sy’n ein helpu i ddiwallu’r gofynion ar y diwydiant, maent yn ein caniatáu i barhau i ffynnu a thyfu, i’n gwneud yn well.

Bu’n siwrnai, ac o’r foment camodd Jason drwy ddrysau ein bwyty yn Llandrillo-yn-Rhos, i’r eiliad y cafodd ei ffedog, bu’n un yr ydw i wedi bod yn falch o fod yn rhan ohoni.

Mewn rhai misoedd, aeth o nerth i nerth - mae’n berson gwahanol, ac er yr hoffem gymryd ychydig o’r clod, nid oes modd i ni wneud hynny. Dim ond yr adnoddau yr oedd eu hangen a roesom, drwy waith caled a natur benderfynol, mae wedi cyrraedd lle mae heddiw.”

end content